Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "Â Gwaith Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif. 124.] EBRILL, 1891. [Cyf. XI. AIL YMDDANGOSIAD ELIAS I AHAB. (1 Bben. xviii. 1-18.) iYFEIRIA y geiriau, " Yn y drydedd flwyddyn," ar ddechreu y benod, at dymhor arosiad Elias yn Sarephtah. Parhaodd y sychder am dair blynedd a chwe' mis. Treuliodd y proffwyd oddeutu blwyddyn o'r rhai hyn wrth afon Cerith, a'r ddwy flynedd a haner gweddill o dan gronglwyd y wraig weddw ; fel mai yn y drydedd flwyddyn o'i arosiad gyda hi yn Sarephtah, yn Sidon, y daeth gair yr Arglwydd ato yn dyweyd wrtho am ymddangos i Ahab yr ail waith. Casglwn mai mewn atebiad i'w weddi'au y daeth y gorchymyn hwn iddo. Yr oedd y sychder wedi myued yn annyoddefol; y newyn yn cael ei deimlo yn gyffredinol; y genedl yn dihoeni 0 dan ei effeithiau, ac eto heb ei thywys i edifeirwch. Teimlai y proffwyd yn angerddol dros ei bobl, a hiraethai am weled diwedd yr ymdrech yr oedd ynddi. Er nad oedd y genedl wedi ei thywys i edifeirwch, teimlai erbyn hyn ei bod ar dir i siarad â hi. Yn y cyfryw ysbryd, yr oedd wedi bod mewn ing enaid yn dadleu gyda Duw ar ran ei bobl; ac o'r diwedd, dyma yr atebiad hir-ddysgwyliedig yn dyfod : " Ac ar ol dyddiau lawer "—swn hir-ddysgwyliad am atebiad i weddi—" daeth gair yr Arglwydd at Elias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab ; a mi a roddaf wlaw ar wyneb y ddaear." Y mae y proffwyd i fod yn offeryu amlwg yn nychweliad y fendith yn gystal ag yn ei hataliad. Pe daethai y fendith heb gyfryngiad amlwg a chyhoeddus Elias, buasai y brenin a'r bobl yn barod i gredu fod Baal o'r diwedd wedi eu gwrando, ac wedi sicrhau buddugoliaeth iddynt ar y proffwyd a'i Dduw. Ond nid felly y mae i fod. Ni fydd Baal a'i ganlynwyr yn neb na dim yn y dydd y cyfyd yr Arglwydd i benderfynu y ddadi sydd rhyngddo a hwynt; ac ni chaiff ei broffwyd fod heb ei ran yn anrhydedd y fuddugoliaeth. Nid cynt y derbyniodd Elias y gorchymyn i ymddangos i Ahab nag yr ufuddhaodd iddo. Diau y gwyddai am ei berygl, y chwilio dyfal a l'uasai am dano, yr erlid creulon a fuasai ar holl broffwydi Duw yn