Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaìah. Rhif. 122.] CHWEFROR, 1891. [Cyf. XI. Y CYFNOD CYNTAF YN HANES ELIAS. (1 Been. xvii. 1-24). CRYBWYLLIAD cyntaf am Elias yw yr hyn a geir yn nglŷn â'i ymddangosiad i Ahab i gyhoeddi barnedigaeth ar y wlad yn herwydd ei heilunaddoliaeth. Saif ger ein bron fel pe wedi disgyn o'r cymylau, a thỳr ei lais ar ein clustiau gyda sydynrwydd a nerth y daran. Y mae yna ryw awdurdod o'i gylch na cheir yn nglŷn âg un dyn arall yn hanes y byd. Tanbeidia gwirionedd yn ei lygaid, fflamia gonestrwydd yn ei wedd, a thremia gwroldeb arnoch yn mhob ysgogiad o'i eiddo. Nid rhyfedd fod breninoedd a phobloedd yn delwi ger ei fron, fel dyn a Duw yn siarad yn ei lais, ac yn syllu yn ei edrychiad. Ystyrir ef y cymeriad mwyaf rhamantus yn holl hanes y genedl luddewig ; ac er lleied sydd genym o'i hanes personol, efallai nad oes un dyn o'r hen oesoedd yn sefyll mor fyw o flaen llygaid ein meddwl. Cymaint a wyddom am ei darddiad yw yr hyn a ddywedir yn yr ychydig eiriau hyn: " Elias y Thesbiad, un 0 breswylwyr Gilead." Gwlad yw Gilead ar y dwyrain i'r lorddonen, a ranwyd yn nyddiau Moses rhwng llwyth Reuben, a llwyth Gad, a haner llwyth Manasseh ; gwlad fynyddig a phorfaog ; enwog am ei balm a'i pherlysiau; ac yn fwy cymhwys i ddybenion bugeiliol nag i ddybenion amaethyddol. Ystyrir tiriogaeth Gad, sef canolbarth Gilead, y rhan fwyaf rhamantus yn yr holl wlad. Yr oedd bywyd y trigolion yn llawn o bob math o beryglon ; ac yr oeddynt o'u mebyd i fyny wedi eu cynefino âg antur- iaethau a chaledfyd nas gwyddom ni mewn gwlad ac oes fel hon ddim am danynt. Yr oedd ganddynt i ymladd â gwylltfilod y mynyddoedd ; a gwaeth na hyny, â heidiau 0 garn-ladron llofruddiog oedd yn byw am y terfyn â hwynt, ac yn gwylio ar bob cyfie i ymosod arnynt hwy ac ar eu hanifeiliaid. O dan yr amgylchiadau yr oeddynt yn byw ynddynt, yr oeddynt o angenrheidrwydd yn rhyfelwyr, ac yn fedrus i amddiffyn eu hunain yn mhob dull| a modd. Dynion bywiog, heinyf, gwydn, a