Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaìah. Rhif. 106.] HYDREF, 1889. [Cyf. IX. YMDDYDDANION A MOESAU. "Na thwyller chwi: y mae ymddyddanion drwg yn llygru moesau da" (1 Coe. xv. 33.) MAE dyn yn alluog i ddal cymdeithas â'i gyd-ddyn. Y mae siarad yn beth aml iawn yn y byd, ac yn beth dylanwadol iawn. Gesyd y tafod dynol droell naturiaeth yn ffiam. Y mae dyn yn greadur moesol, a drwg neu dda yn perthyn i'w holl weithred- oedd. Y mae i Dduw gymeriad moesol. Rywfodd y mae y gair moesol yn ein siarad wedi myned i arwyddo da yn unig. Ond y mae moesau drwg. Beth yw moesau ? Moesoldeb ? Moesau yw arferion, dull, tu allan dyn. Moesau da yw tu allan prydferth, diweirdeb, sobrwydd, gonestrwydd, geirwiredd, cadwraeth y Sabbath yn allanol, a gweddus- rwydd iaith. Os bydd dyn yn dyngwr a rhegwr, os bydd yn myned at ei orchwylion ei hun ar Ddydd Duw, y mae yn anfoesol. Dyn moesol yw dyn nad oes gan neb ddim drwg i'w ddywedyd am dano. Gellid dywedyd mai nacaol yw moesoldeb, sef absenoldeb pechodau a ddiraddient ei gymeriad. Y mae yn bosibl i gybydd fod yn foesol; i anghredadyn ; i ddyn cenfìgenus, &c. ; dyn di-ddaioni, heb roddi na chyfranu, heb ymwadu âg ef ei hun mewn dim, eto o foesau da. Y mae moesoldeb yn gyfnewidiol; nid yr un peth yw yn mhob oes nac yn mhob gwlad. Ystyria un yn rhinwedd beth a ystyria arall yn fai. Y mae un ardal yn cefnogi arferiad a dynai warth ar ddyn mewn ardal arall. Nid yr un yw safon moesoldeb. Y mae i Gristionogaeth ei safon ; ac wrth " foesau da " yn y testyn y deallwn foesau Cristionogol. Yr oedd y dengair gynt yn safon moesoldeb, a'r dyn a'u cedwai o'i febyd nid oedd bell 0 deyrnas nefoedd. Y mae moesoldeb Cristionogaeth yn uwch. Gwahardda ryfel, llwon, gwneyd drwg í'el y del daioni, &c. Dyma a ddysg, ond y mae y Cristion mewn perygl 0 gael ei lygru. Y mae yn y byd, ac y mae yn debyg, drwy gyfeillachu â'r byd, i lyncu ei ysbryd, i siarad ei iaith, ac i ddilyn ei arferion; drwy ffurfio cjsyllt- 19