Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. " A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 105.] MEDI, 1889. [Cyf. IX. YCHYDIG MEWN LLAWER: Sylwedd Papyr a Ddarllenwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Cydweli, Chwefror. 19eg, 1889.* 'AE y testyn yn gorchuddio maes eang iawn—" Gweithrediadau Cenadol Protestaniaid y Can' mlynedd diweddaf; " ac nis gallaf mewn un modd gyfranogi o deimlad y proffwyd pan y dywedai ar fater arall, mai " byrach oedd y gwely nas gallai ymestyn ynddo, ac mai " cul oedd y cwrlid i ymdroi ynddo." Pe " Gweithred- iadau Cenadol Cymdeithas Genadol Llundain " yn unig a fuasai, mi a ddywedaswn, " Nid drwg lle gellir gwaeth ; " neu pe " Gweithrediadau Cenadol Protestaniaid y deng mlynedd diweddaf" a fuasai, mi a ddywed- aswn yn gyffelyb ; ond gan mai " Gweithrediadau Cenadol Protestaniaid y Can' mlynedd diweddaf " ydyw, yr wyf yn tynu fy anadl ataf, ac yn barod i ddyweyd, " Nid da lle gellir gwell." Fodd bynag, nid oes ond gwneyd " y goreu o'r gwaethaf." Ymdrechaf grynodebu y pethau pwysicaf a awgrymir yn y testyn, a'u cynwys mor fyr a chryno ag y medraf yn yr adranau canlynol :— I. Dechreuad y Gwahanol Gymdeithasau. II. Ffrwyth eu Hanturiaethau Cenadol. III. Moddion eu Cynaliad. Casglwn y " briwfwyd gweddill" ar y diwedd mewn ychydig wersi. I. Dechreuad y Cymdeithasau. Mae natur ac ysbryd y grefydd Gristionogol 0 angenrheidrwydd yn genadol am ei bod yn gyfaddas, ac wedi ei chyfaddasu i bob cenedl, gwlad, ac iaith. Gellir olrhain cymeriad cenadol crefydd Crist i natur ac eangder " yr Iawn a dalwyd ar y groeis " dros bechodau " yr holl fyd " gan ei Hawdwr. Pe cul a chyfyng a fuasai ei darpariaethau grasol hi, fe'i dihetrid o'r cymeriad hwn; ond gan fod a fynont â phob dyn o * Cyhoeddir ar gais y Gynadledd. 17