Skip to main content

CENAD HEDD. "A Gwaüh Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 103.] GORPHENAF, 1889. [Cyf. IX. IESÜ A'R WRAIG WRTH Y FFYNON. T dwfr a roddwyf iddo a fydd ynddo yn ffynon 0 ddwfr yn tarddu i tragywyddol."—Ioan iv. 14. ' AE y benod hon yn profi fod y Beibl yn deilwng 0 gael ei gyfrif yn Air Duw—ei fod yn fwy na llyfr dyn. Ni lefarodd llyfr erioed fel y Beibl. Mae y benod yma yn cynwys adroddiad 0 fawredd Dwyfol mwy na'r benod gyntaf o Genesis. Ceir yn hono hanes y Gallu, a'r Doethineb, a'r Cariad Dwyfol yn gwneyd creadigaeth ogoneddus ; ond yma ceir hanes Trugaredd yn creu anian foesol bechadurus 0 newydd, ac yn newid tynged a gyrfa dragywyddol enaid colledig, ac yn ei ddodi ar y llwybr a'i tywysai i dangnefedd a llawenydd Duw. Dyma engraifft nodedig brydferth ac effeithiol o waith Mab Duw yn dwyn i fewn yr Oruchwyliaeth Bfengylaidd yn lle yr un seremoniol. Yr oedd yr olaf yn allanoi, yn adgoffa pechodau heb eu symud, ac yn gyfyngedig i'r Iuddewon. Ond mae gweithrediad yr Efengyl yn fewnol, yn dileu pechod, ac yn cael ei weinyddu ar un o'r Cenedloedd—ar wraig 0 Samaria—un o'r bobl nad oedd yr Iuddewon yn dal cyfathrach â hwy. Drwy hyny dangosodd Iesu ddyben daionus ei ddyfodiad i'r byd. Ei genadwri Ef ydoedd dwyn achubiaeth foesol i bechaduriaid—ceisio a chadw yr hyn a gollesid. Mae yn hawdd genym gredu nad ydoedd ei ymddyddan argyhoeddiadol a chyfnewidiol â'r wraig hon ond un 0 lawer 0 rai cyffelyb a wnaeth yn ei weinidogaeth, y rhai ni chawsant eu cofnodi ; canys dywed Ioan yn niwedd ei Efengyl fod amledd dirfawr 0 weithredoedd maw rion wedi eu cyflawni ganddo, mwy nag a fyddai yn gyfleus i wneuthur cofnodion cyflawn ohonynt. Dedwydd byth fydd enaid y wraig hono am i'r Iesu ymgymeryd â'i diwallu a'i disychedu mor llwyr, mor sydyn, ac mor annysgwyliadwy. Mae yn syn i'r genedlaeth bechadurus a gwrthnysig a breswyliai Ganaan yn ei oes Ef esgeuluso sicrhau bendithion o alluoedd rhinweddol y Gwaredwr. Iddynt hwy ni fu gwyrthiau Crist ar gorff ac enaid ond fel tywallt llaeth. ar dywod sych. J3