Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder/ydi Heddwch."—Esaiah. Rhif. 98.] CHWEFROR, 1889. [Cyf. IX. GWAREDIGAETH PEDR. " Ac yn nghylch y pryd hwnw yr estynodd Herod frenin eí ddwylaw i ddrygu rhai o'r eglwys. Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â'r cleddyf A phan welodd fod yn dda gan yr luddewon hyny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau y bara croew ydoedd hi.) Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yn ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwarìaid 0 filwyr i'w gadw ; gan ewyllysio, ar ol y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Pedr a gadwyd yn y carchar ; eithr gweddi ddyfal a icnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef" —Actau lii. 1-5. DYNA yr oll a ddarllena rhai pobl. Cauant y Beibl wedi darllen am Herod yn estyn ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r eglwys, a'i waith yn llofruddio Iago, ac yn carcharu Pedr, gan furmur ynddynt eu hanain, " Nid oes un Duw yn bod; neu os oes, y mae yn rhaid cydnabod nad ydyw mor nerthol a Herod frenin, neu nad ydyw crefydd yr Àpostolion yn werth i'w hamddiffyn ; onide buasai yn rhwystro y brenin creulawn hwn i'w drygu." Ünd dylid darllen y benod drwyddi. A gellir bod yn benderfynol fod pob penod ag sydd yn dechreu mor feiddgar a rhyfygus a hon yn sicr o orphen yn druenus. Diwedd pob penod sydd yn son am " Herod yn estyn ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r eglwys" ydyw, " A chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd." Peidiwch byth a dywedyd nad yw Duw yn teyrnasu am fod yr annuwiol yn " frigog fel y llawryf gwyrdd," hyd nes y gwelwch ei ddiwedd ef. Rhaid myned i ben draw y daith cyn y gellir cyhoeddi barn arni. Nid yw Tad tragywyddoldeb byth mewn brys, ac felly y mae yn rhaid i ninau weled y diwedd. *' A chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd." Felly nid 0 eisieu dien- yddwyr y goddefwyd iddo i estyn ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r eglwys, canys fe fedrai ychydig o fân " bryfed " wneuthur hyny ond i Dduw i'w gorchymyn. A beth pe buasai Iago a Phedr yn cael awdurdod i ruthro arno ? Mor fostfawr ryfygus yr estynai ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r eglwys, ac yn y diwedd ychydig o bryfed yn ei ysu. Bu yn ofynol cael brenin i ladd Iago : gallodd pryfed ysu ÌTerod. Mae diwedd y benod yn dangos fod Iago gymaint a hyny yn fwy nag Herod.