Skip to main content

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif. 97.] IONAWR, 1889. [Cyf. IX. Y TESTAMENT. >AIFF testyn ein sylwadau ar ddechreu y flwyddyn hon fod yn nechreu y gyfrol. Ni wnawn nodi llyfr, na phenod, nac adnod gofynwn i chwi agor y G-yfrol Sanctaidd, a darllen y wyneb- ddalen, "TESTAMENT NEWYDD EIN HARGLWYDD A'N HIACHAWDWR IESU GRIST." Onid ydyw y Porth yn brydferth ? Priodol y gellir ei alw yn " Borth prydferth y Deml" ardderchog a ganfyddir ar ol myned i mewn. Y mae y porth yn deilwng o'r deml, a'r deml yn deilwng o'r porth. A phriodol hefyd y gallwn eich gwahodd i " edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma," yn gwneyd i fyny y porth. Y maent yn harddach na'r jaspis, a'r saphir, a'r smaragdus, ac yn werthfawrocach na'r cwrel, a'r gabis, a'r topaz 0 Ethiopia : ni chydbrisir hwy â'r aur pur. Y mae pob gair yn ddyddorol odiaeth. " Testament Newydd ein Harglwydd." Y mae yn hawlio ein parch. Pan yn agor hwn, yr ydym yn myned i ddarllen geiriau ein Harglwydd. Y mae yn gweddu i ni ddiosg ein hesgidiau, canys yn y fan yr elom i mewn i'r Llyfr yr ydym yn sefyll ar ddaear sanctaidd yr " Ysgrythyr Lân." Nid ydym i fyned at y Llyfr hwn fel at lyfrau cyffredin. Gair yr Arglwydd sydd yma. Y mae rhyw bobl, er canmol y Llyfr, yn gwadu ei Ddwyfoldeb. Ni bu erioed fwy o anghysondeb : os nad ydyw yn Llyfr Dwyfol, nid ydyw yn werth dim. Testament—ewyllys—heb ei arwyddo ydyw, ac nid oes dim gwerth mewn un amod îieb iddi gael ei harwyddo. Ond " Testament Newydd ein Harglwydd " ydyw hwn. " Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr." Y mae llawer arglwydd heb fod yn iachawdwr. Arglwyddiaetha yn orthrymus a chreulawn, fel Pharaoh ar Israel. Y lle diweddaf y buasent yn meddwl troi ato am waredigaeth. " Iachawdwriaeth yr Arglwydd" oedd myned a hwy o'i gyrhaedd ef. Ond y mae ein Harglwydd ni yn Iachawdwr. Ni allasai neb fod yn Iachawdwr i ni ond eiu Harglwydd. Yr oedd yn rhaid i'r bywyd gwerthfawrocaf gael ei roddi drosom ni. Ni buasai bywydau yr holl angylion ddim yn ein