Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD H EDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 91.] GORPHENAF, 1888. [Cyf. VIII. ENFYS 0 AMGYLCH YR ORSEDDFAINC. MAE llawer 0 bethau yn llyfr y Datguddiad y teimlwn yn dra hwyrfrydig i geisio eu hesbonio ; ond dyma arwyddlun o'r fath fwyaf gogoneddus ag y mae yn anhawdd i neb gamddeall ei ystyr. Ceir yn y Beibl lawer 0 arwyddluniau rhyfeddol; ond ni cheir ynddo un ag sydd yn gyfoethocach mewn ystyr gysurlawn i'r saint na'r " enfys 0 amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus " (Dat. iv. 3). I weled gwerth a phriodoldeb yr arwyddlun, gadewch i ni fyned ychydig i mewn i'r amgylchiadau. Y mae yma orseddfainc yn cael son am dani, ac un yn eistedd arni. Y mae gorsedd yn arddangos llywodraeth, ac un yn eistedd arni yn arddangos llywodraethwr. Y Brenin tragywyddol geir yma, yn yr Hwn y mae y doethineb, a'r gallu, a'r awdurdod uchaf wedi cydgyfarfod. Y mae yr arwyddion cydfynedol â phresenoldeb y Duw cadarn yn mhob man ac yn mhob peth o'i gylch. Heblaw yr orseddfainc hon, a'r Hwn sydd yn eistedd arni, ceir yma lu 0 orseddfeinciau ereill, a rhai yn eistedd arnynt—" Ac yn nghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain ; ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, ac yr oedd gan- ddynt ar eu pen goronau aur." Mae yr henuriaid hyn mewn rhyw fodd neu gilydd yn cynrychioli ein teulu ni. Yn ol eu cyffes eu hunain, rhai wedi eu prynu i Dduw drwy waed yr Oen ydynt. Y maent yno mewn púrdeb difrycheulyd, fel y dengys y gwisgoedd gwynion sydd am dauynt; mewn awdurdod ac anrhydedd mawr, fel y dengys y gorseddau yr eistedd- ant arnynt, a'r coronau sydd ar eu pen ; ac mewn dedwyddwch llawn, fel y dengys y gwaith sydd ganddynt i'w gyflawni. Canu, a chlodfori, a myfyrio, ae addoli, dyna eu gwaith. Son am hen deulu y gorfoledd a'r hwylieo-^h y dyddiau gynt; dvma deulu sydd mewn gorfoledd a hwyl. 13