Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 89.] MAI, 1888. [Cyf. VIII. CERDDORION CYMREIG YMADAWEDIG. RHAGARWEINIAD. jID oes ond ychydig ffeithiau mor ansylweddol a'r beirdd ; fel cysgodau y deuant, ac fel cysgodau y diflanant! Gwyddom rywbeth am Dafydd ab Gwilym, Iolo Goch, a Lewys Glyn Cothi; ond pwy oedd Meilir ? Yn mha le y trigai ei fab Gwalchmai ? .....Mab pwy oedd Cynddelw ? Yn mha le y ganwyd Dafydd Benfras ?" &c, &c. Fel yna y cwynai arch-hanesydd Cymru, Thomas Stephens, ac fel yna y cwyna haneswyr pob gwlad i raddau mwy nen lai, nid yn unig am eu beirdd, ond am eu henwogion yn gyffredinol. Dyna ein cwyn ninau yn Nghymru, ac nid yn nglŷn â neb yn fwy na'n cerddorion ; oherwydd, er fod cofnodiou lluosog 0 fewn cloriau ein Gwyddionaduron, a'n llyfrau bywgraffyddol ereill, am awduron mân englynion, a baledau, &c, y mae yn syn mor ychydig a gynwysant am gyfansoddwyr ein tônau di-ail, dadganwyr ein halawon byd-adnabyddus, a chwareuwyr ein hofferynau celfydd. Yr unig lyfr a feddwn ag sydd 'yn ymdrin â'r cwestiwn mewn dull arbenig ydyw Music and Poetical Relichs Bardd y Brenin, ond y mae hwnw yn gan' mlwydd oed. Nid ydyw mewn un modd yn drwyadl a gwir feirniadol. Tueddfryd yr awdwr ydoedd rhoddi coel i bob hen chwedl—ac er ei amser ef yr ydys wedi cael goleuni mwy a rhagorach ar aml i fater dyrys a phwysig. Bellach, diolch i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, yr ydys yn dysgwyl ymddangosiad traethawd buddugol y .£30 yn Llundain, ar " Gerddorion Cymreig " hyd at ganol y ganrif bresenol, a phan y daw, bydd yn gaffaeliad pwysig i'n bywgraffiaeth gerddorol. Yn y cyfamser, ac yn annibynol hefyd 0 bosibl, gall y bydd y braslunebau a ganlyn a ysgrifenir ar gais y Golygydd—cais a ddygai gydag ef gynifer o adgofion am yr " hen deimladau cynes," fel nas gellid ei wrthod—yn dderbyniol gan ddarllenwyr Ceníad Hedd. Hwyrach y gall rhai edrych yn ddirmygus ar wrthddrychau aml un o'r mân-nodion a ganlyn ; ond mewn perthynas i hyn o fater teimlad yr