Skip to main content

CENAD HEDD. "A Gwaüh Gyfiawnder/ydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 84.] RHAGFYR, 1887. [Cyf. VII. Y GRAIG YN HOREB. " A hwy a yfasant ör graig ysbrydol oedd yn canlyn; a'r graig oedd Crist." 1 CORINTHIAID X. 4. 'AE creigiau yn gyffredin yn Ngwlad Canaan. Mae eu huchder a'u holltiadau yn ogofeydd yn eu gwneyd yn rhai cymhwys iawn er bod yn noddfeydd rhag ystormydd, yn gysgod rhag gwres, ac yn amddiffyn rhag gelynion. O herwydd hyny mynych elwir Gwaredwr mawr Israel yn yr Hen Destament yn Graig, a chym- hellir ei bobl ofnus i ffoi ato, yn eu hamryw beryglon, am ddyogelwch a gorphwysfa. Ond nid dyma unig, na phrif, fendithion y testyn. Cyf- eiria at Israel yn yr anialwch. Gofynai y crwydriaid truain hyny am rywbeth yn ychwaneg yn yr anialwch diffaeth hwnw. Cawn hwy yn Rephidim yn llewygu gan syched. Pa fodd y torir ef ? Nid gan wlaw oddiuchod, na ffynonau oddi-isod. Eu tywysog ddug allan iddynt ddwfr o'r graig gallestr. Wel, paham y bn hyny ? Dywed Paul paham. Geilw y ffynon ryfedd hon yn " graig ysbrydol," a'r dwfr a lifai ohoni yn " ddwfr ys- brydol." Geilw hwy felly am y bwriedid iddynt gynwys meddwl ysbrydol, a mynegi pethau ysbrydol—un yn sefyll am yr Arglwydd lesu Grist, y llall yn gysgod o'r bendithion mawrwerth geir drwyddo. Gwyddoch pa beth yw y bendithion hyn. Er amled ein heisieu, cynwysa dau air, trugaredd a gras, bob peth sydd raid i ni wrthynt. Mae dwfr o graig Horeb yn debyg iawn iddynt. Un nodwedd a welir ydyw parhausrwydd, anghyfnewidioldeb. Craig ydoedd, hynod o gadarn a diysgog. Dywedir nad ydyw amser wedi cyfnewid nemawr arni eto. Teithwyr a fynegant ei bod i'w gweled eto wrth droed mynydd Sinai, nid yn gollwng allan ei ffrwd wyrthiol, ond yn dwyn y nodau mwyaf amíwg iddi unwaith fod yn ffynon o ffrydiau lawer. A pha beth a fedr ddrygu na chyfnewid y Cadarn a'r Dyrchafedig, o'r Hwn y daw ein hiachawdwriaeth ? Nid 23