Skip to main content

CENAD HEDD. ".4 Gwaith Cijfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif. 80.] AWST, 1887. [Cyf. VII. ETIFEDDIAETH DEG.' " Y mae i mi etifeddiaeth deg." —Salm xvi. 6. JID y\v ein drwg yn niweidio, na'n da yn lleshau dim ar Dduw. Y mae mor berffaith mewn daioni, fel nas gall holl ddrygioni uífern ei niweidio, na holl ddaioni y nefoedd ei leshau. Nis gall gelyniaeth ei elynion ei ddrygu, nachariad eigyfeillion ei wellhau— " Fy na nid yw ddim i ti." Y mae ein pechodau yn niweidio ein hunain a'n cyd-ddynion ; ond gwnant y niwed mwyaf i ni. Ein rhinweddau ydynt yn ein lleshau ni a'n cyd-ddynion ; ond y llesiant mwyaf i ni. Etifeddiaeth oreu y dyn da ydyw ei Dduw—" Yr Arglwydd yw rhan i'y etifeddiaeth i, a'm phiol." Nid rhan o Dduw, ond Duw yn rhan. Dyma ddigon 0 etifeddiaeth, heb eisieu ychwanegu ati, a hi a bery byth. Rhoddir hi yn ol ewyllys Duw, a derbynir hi yn ol ewyllys dyn. Dyma yr unig etifeddiaeth a gyfoethoga ddyn, ac aadfywia a chryfha ei ysbryd. " Phiol lawn" ydyw o rasusau i bereiddio a melysn enaid wedi ei chwerwi gan bechodau. Teimla y dyn da ei ddyogelwch i'w hawl o'r etifeddiaeth yn dibynu ar ofal Duw am dano—" Ti a gyneli fy nghoel- bren." Duw o'i ras yn rhoddi ac yn dyogelu yr hawl iddo, fel nas gall neb ei ysbeilio. Yn y testyn canmola Dafÿdd ei etifeddiaeth—" Y mae i mi etifeddiaeth deg." I. Yr Etifeddiaeth ddymunol sydd genym. 1. JS/'eülduaeth genedlaethol.—Yr ydym fel cenedl wedi ein mawrhau gan Dduw, trwy ein gosod yn uchel mewn breintiau duwioldeb. Y mae wedi caru ein cenedl ni, anrhydeddu ein hiaith, ac addurno ein gwlad â phethau mawrion ei gyfraith a'i ras. Y mae ein creigiau ganoedd o weithiau wedi adseinio pregethau efengylaidd, gweddiau calonau drylliog, a chaniadau mawl i Dduw. Ceir dyrnaid 0 ỳd Cynhauaf yr Efengyl ar benau mynyddoedd ein gwlad; a gallwn ddyweyd fel cenedl, " Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion." 15