Skip to main content

CENAD HEDD. " A Owaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 216.] RHAGFYR, 1898. [Cyf. XVIII. Y PARCH. JOHN PHILLIPS, Y DREWEN. 'AE y Drewen yn sefyll ar làn afon Teifi, yn agos i Gastellnewydd Emlyn, lle y mae bâd yn cario pobl o un ochr i'r llall ar afon Teifi. Yr wyf yn cofìo pan yn ieuanc iawn am un 0 fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin yn pregethu yn n^hapel y Drewen un nos Sabbath yn yr haf. Yr oedd yn pregethu am ddau o'r gloch yn Nghastellnewydd Emlyn. Wedi iddo dd'od i'r làn o'r'bâd wrth gapel y Drewen, goíÿn- odd mewn llais plentynaidd : " A oes oedfa yma heno ? " " Oes," oedd yr ateb. " Ai chwi sydd i bregethu ? " " Fe ddichon hyny." Yna aeth i fewn i'r capel. Yr oedd y bobl yn grwgnach am eu bod wedi aros o'r oedfa ddau o'r gloch i wrandaw crwt yn pregethu. " A ddo'wch ch'i adref ? " meddai un wrth y lla.ll. " Na ; de'wch i ni gael clywed y crwt." Cyn ei fod wedi haner ddarllen penod i ddechreu y cwrdd, yr oeddynt wedi newid eu meddwl am dano. Cawsant wledd i'w meddyliau ; nefoedd ar y ddaear oedd yr oedfa hono. Ni ehlywsant y fath bregethwr erioed, meddent; " Pa bryd y cawn ni ei glywed eto ?" Yr oedd y " Gogoniant," yr " Amen," a'r " Diolch byth, bytb, byth," wedi dyfod adref y noson hono. Methwyd ymadael gan mor hjfryd oedd y wledd ar fwrdd Efengyl. Yr ydych yn barod i ofyn yn awr pwy oedd y pregethwr. Wel, y bachgen anwyl hwnw oedd y Parch. Thomas Harris, gweinidog Mynydd- islwyn wedi hyny. " John «Tenkyn, 0 Hengoed, a Hughes, o'r Groeswen," meddai y bardd, "sydd enwog; ond Twm Harry sydd ben." Clywais fod y Parch. W. Ẅilîiams, o'r Wern, yn pallu pregethn ar ei ol raewn cwrdd mawr yn Rhaiadr-ar-Wy. Pwy allasai fentro pregethu ar ol y fath gawr 0 bregethwr a'r Parch. Mr. Harris, Mynyddisiwyn ?