Skip to main content

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaìah. Rhif. 215.] TACHWEDD, 1898. [Cyf. XVIII. Y GORUWCHNATURIOL. 1. 'AE crefydd yn rhagdybio yr ysbrydol, ac mae yr ysbrydol bob amser yn oruwchnaturiol, ag í ni esbonic Natur fel yr esbonir hi gan wyddonwyr yr oes—yn faterol hollol. Ac mae y Gor- uwchnaturiol, weithian, yn ymgodi yn oruwchddynol. Mae y dynol yn Oruwchnatnriol ; a phan ddyrcheflr dyn at Dduw, ac i Dduw—fel yn y Dyn Crist Iesu—mae yn myn'd yn Oruwchddynol, yn myn'd yn Ddwy- fol. Onid hyn welir yn Moses, yn Elias, yn Eliseus, yn yr apostolion, a phob un ddaeth yn ddigon agos i'r Dwyfol i gyflawni gwyrthiau, ac i roi datguddiadau i'r byd? II. Mae gwrthwynebwyr a gwadwyr crefydd ysbrydol yn gorfod symud eu safle i ymosod arni y dyddiau hyn. Gynt, tybient ei bod yn ddigon iddynt wadu y Goruwchnatuiiol. Dyma wnai yr hen Ddeistiaid, 0 Thomas Hobbs (1588—1679), " Tadan Rhyddfeddyìwyr Prydain," a'u tad, Arglwydd Herbert, 0 Cherbury (1581—1648), hyd yr olaf o'r hil- iogaeth. A phan drowyd Deistiaeth yn Atheistiaeth gan David Hume (1711—1776), ei brif ymdrech oedd dirmygu pob elfen Oruwchnaturiol. Ond ni ddaliodd yr ymosodiad yn y ffurf ffyrnig a chreulawn hono yn hir. Na, clywyd llais Diwygiad grymus yn dyweyd, " Hyd yma yr äi, a dim yn mhellach." Daeth diluw o ddylanwad cryf yr Ysbryd Glan dros y wlad yn y Diwygiad Mawr Methodistaidd—Wesleyaidd a Chalfinaidd, •—nes y chwalwyd araddiffynfeydd Anffyddiaeth am byth ; a gwawriodd tymhor gwell o FtVdd ac Ysbrydolrwydd. Dywedasom "Am byth," gydag amcan. Ni cheir anffyddwyr heddyw, na byth mwy, yn mhlith