Skip to main content

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 214.] HYDREF, 1898. [Cyf. XVIII. "PWY SYDD FWYAF YN NHEYRNAS NEFOEDD?" (Matt. xviii. I.) I ddysgyblion a ofynasant hyn i'r Iesu. Yr oeddynt wedi myned yn mlaen yn mhell yn Ei ysgol Ef cyn y gallent ofyn felly. Yr oeddynt yn credu fod Teyrnas Nefoedd i fod, ac yn meddwl ei bod o werth sicrhau lle ynddi. Yr oedd hyn yn syniad cwbl newydd iddynt. Canys Iuddewou oeddynt, wedi eu magu yn nghrefydd Moses a'i seremoniau materol a gweledig. Am gyflawni y rhai hyny, dysgwylient fendithion tymhorol, yn ol addewid yr Hen Destament, sef cael etifeddu y tir, bod yn hirhoedlog ar y ddaear, a'u gwarchod yn Ddwyfol rhag eu gelynion cymydogol eilunaddolgar am gadw ohonynfc orchymynion Duw. Ond yn awr, y mae y dysgyblion yn ymgodi oddi- wrth hỳny; ni phrisiant ddefodau Moses; nid awyddant am fwynhau Gwlad yr Addewid; gadawsant bob peth oedd o'r blaen yn fawr yn eu golwg, 'a dilvnent yr Iesu, gan ofyn pa beth a fyddai iddynt, a phwy a fyddai fwyaf yn y Deyrnas newydd. Deallent nad oedd y grefydd newydd yn sicrhau bendithion y byd hwn, eithr credent mai erlidiau, gorthrymder, tân, a chleddyf oedd yn eu haros am ganlyn yr Athraw New^dd : y caent eu taflu i garchar ac i angeu oherwydd hyny, ac y tybiai pwy bynag a'u lladdent eu bod yn gwneyd gwasanaeth i Dduw. Ond ni flinai hyny eu meddwl, gan y clywsent am y Deyrnas Nefol, ragorach nag a gawsai eu tadau bymtheg caurif yn ol am ganlyn Moses o'rAifift Dyma gynydd rbyfedd mewn pobl feddienid am oesau meifchion gan awydd am fwynhau bendithion bydol am wasanaeth crefyddol i Dduw. Yn awr, meddylient am gyflwr ysbrydol a thragywyddol 0 ddedwyddwch pur—Teyrnas yn y Nefoedd wedi dechreu yn y byd hwn ; canys eu gofyniadyw, "Pwy sydd fwyaf?" ac nid " Pwy fydd fwyaf?" Mae