Skip to main content

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder /ydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 2ii.] GORPHENHAF, 1898. [Cyf. XVIII. PERTHYNAS POBL IEÜAINC A'R EGLWYS. }I all y mwyaf difraw lai na meddwl am Dduw. Gwna yni cyn- henid enaid newydd ddeffro ei arwain yn anocbeladwy i chwilio am achosion, holi am resymau, ac olrhain dylanwadau. Natur- iol iddo gredu fod eu tarddellau mewn deall gweithgar a bwriadau amryfath. Nid oes nodwedd lawnach 0 gyfaredd yn perthyn i'r meddwl ieuanc na'r chwilfrydedd diorphwys sydd yn esgor ar ofyniadau cywrain. Mae awydd angerddol i gyihaedd gwreiddyn pob mater yn llanw y llygad â bywiogrwydd tanbaid, ac yn llinellu y wedd â nodion meddyl- garwch. Nid cynt y tÿr syniadau cyntaf y plisgyn nag yr ehedant • ffaith i ffaith, fel gwenyn haf yn casglu mêl. Wedi i feddwl dyn gychwyn ar ei yrfa anturus, ni all lai na synio am Dduw, a phriodoli iddo ei hun ryw fath 0 berthynas âg Ef. Hyn yw enaid crefydd o ran ei hanfod gvfriniol, ac hwyrach nas gellir yn hawdd taro wrth hapusach darnodiad 0 ffydd ca'r un esyd allau mai penderfyniad yw, 0 eiddo yr ewyllys, i ymddiried pìenary powers i wybodaeth ddilys a phrofiadol, yn cynwys caniatad i ysgogi a chyfeirio y meddwl yn ei holl gyflawniadau. Ni fynwn er dim anwybyddu yr athrawiaeth sydd yn dysgu llygriad dynoliaeth, a'r angenrheidrwydd am ymyriad grasol yr Ysbryd Glan er cynyrchu argyhoeddiad o bechod, a dychweliad pechadur at Dduw. Eto, ciedaf yr un mor ddiffuant, nad yw pechod naturiol, etifeddol, neu wreidd- iol, yn selio colledigaeth neb. Dichon ei fod yn rhoi ffurf i'r prawf tan- llyd y rhaid i ddyn fyned drwyddo. Mae cymainc a hyny yn debygol, os nad yn sicr. Arweinia yr ystyriaethau hyn at y ffaith fod y meddwl dynol, ar y cychwyn, fel dyn ben boreu, mewn cyflwr addas i waith. Mae yn barod i dderbyn argraffiadau, ac yn debyg o'u cadw. Mae'r cof ar hyn o bryd yn afaelgar, mae'n gŵyro i dderbyn, ac yn ffynon i roi parhad. Mae amgylchiadau bywyd hefyd, gan amlaf, yn cydredeg ac yn gefnogol i