Skip to main content

CENAD HEDD. " A Gwaith Gyfiawnder fydd Hbddwch."—Esaiah. Rhif. 209.] MAI, 1898. [Cyf. XVIII. Y GYFEILLACH GREFYDDOL. jN ochelgar a gwylaidd y dymunwn siarad am ddull neu ffordd i gadw cyfeillach, oherwydd mai Duw ydyw Gweithredydd arweiniol pob cyfeillach lwyddianus; ac am Ei fod yn cymeryd Ei ddnll, neu Ei ddullian, Ei Hun yn Ei ymweliadau â'i bobl, megys gwaredigaethau yr Aifft, Babilon, a dydd y Pentecost; ac heblaw hyn, arwydd sicr o wendid ffydd ac o ddiffygneu brinder ysbrydolrwydd ydyw ymholiadau i'r dulliau goreu i Iwyddo achos Duw. Ar adeg 0 sychder, sonia y naill am ei bistyll, a'r llall am ei ffynon, a'r llall am ei afonig, a'r llall am ei lyn, a'i ddyfr-ffyrdd newydd ; ond ar adeg o wlawogydd, anghofir y pîstylloedd, a'r ffynonau, a'r afonydd, yn y llanw mawr ; ac felly yn union ar adegau 0 sychder mawr, ac adegau 0 lanw mawr, mewn crefydd. Ar yr un pryd, gan fod ochr ddynol i grefydd, nid annoeth, ond gwir angenrheidiol, yw son am ddulliau yn ein perthynasau feí addolwyr a gweithwyr Dnw. Yn ymgyrch Jehosaphat a Jehoram a brenin Edom yn erbyn Moab, buont ar (ìrengu o eisieu dwfr wrth fyned drwy Edom i Moab ; ac archodd y Proffwyd Eliseus hwynt i lydanu ceulanau yr afon, i dori dyfr-ffosydd ohoni, ac i agor cadwrfäu ar hyd y dyffryn. Felly y bu ; a rhoddodd Duw y gwlaw mawr. Wele y dulliau yn rhagflaenu yr ymweliad ; wrth gwrs, duìliau proffwyd oeddynt. Felly gyda crefydd. Siarader am y dullian ; ond cofier mai y proffwydi a ŵyr oreu ara danynt. Wrth ymdrin â'r dull eilwaith, cofier dau betb, sef fod y dull yn newid gydag amseran, lleoedd, a phersonau ; a chofier bob araser wrth newid y dulì, mai y dull sydd yn ac i newid, ac nid egwyddor, neu wirionedd. Heth ara y gyfeillach a'i dull ar hyn 0 bryd yn ein Tywysogaeth ì A ydyw yn y raodd mwyaf boddhaus i garedigion goreu yr achos—nidi grefyddwyr bydol, gwaraa1, aüfoddog, ond ei dynion goreu sydd gyda chrefydd ?