Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Gwaith Cyfiawndêr fyddTbEDTmcB.."—Esaiah. Rhif. 208.] EBRILL, 1898. [Cyf. XVIII. Y FFORDD OREU. ', YMERASOM ein penawd o weddi Solomon ar wyl cysegriad y deml. Yn mysg pethau ereill, gweddîai am i Dduw ddysgu i'r bobl y ffordd oreu y rhodient ynddi—gwnelai gwrs, neu gyfeir- iad bywyd, yn fater gweddi. Mae pob ffordd yn cyfeirio ac yn arwain i rywle neu gilydd ; a gwna bywyd pawb ohonom rywbeth cyffelyb—mae pob tuedd ynom yn gogwyddo at ryw ymddygiad, a gogwydda pob ymddygiad a berthyn i ni at ryw dynged, neu sefyllfa. Gwelir fod y Beibl yn Uawn iawn 0 ffyrdd yn yr ystyr yma: y ffordd gul, y ffordd lydan, a'r ffordd galed; ffordd y bywyd a ffordd angeu ; y ffordd uniawn, y ffordd dda, a'r ffordd oreu. Ao yn nghanol cynifer 0 ffyrdd, nid peth dibwys yw y cwestiwn 0 ddewis rhyngddynt, oblegid ymddengys amryw ohonynt fel yn myned am ysbaid i'r un cyfeiriad. Felly, gadawer i ni edrych ar rai o'r egwyddorion a ddylasent fod yn gymhorth i ni bender- fynu pa ffordd yw y debycaf 0 fod y ffordd oreu. 1. Y fforddy eeir y rheswm goreu dros ei dewis.—Pe caem syl- weddoliad o'r hyn y gweddiai Solomon am dano ar yr achlysur a nodwyd, sef teimlo ein bod ar ffordd mai Duw a'n dysgodd i'w dewis, ni allem ddymuno gwell rheswm byth. Mae y syniad o fod ar y ffordd fyddo Duw wedi gymeradwyo i ni yn help i deimlo fod ystyron ac amcanion da i bob peth a'n cyferfydd arni; a'n bod yn manteisio ar yr hyn a gedwir oddiwrthym, yn ogystal ag ar y rhyn a estynir i ni. A gwna ym- deimlad felly y ffordd hon yn un ag y mae cydwybod, yn ei horiau goleuaf a difrifolaf, yn ffafrio pawb o'r rhai a'i teithiant. Gwelsom rai yn anturio arhydffordd waharddedig cyn hyn, er iddynt weled y geiriau, " Tres- passers will be prosecuted," yn ymyl y fynedfa. Dichon iddynt cyrhaedd pen eu taith yn gynt, a dianc yn ddigosb; ond teimlent nad hono oedd ŷ ffordd oreu, er hyny. Yr oedd y syniad nad oedd hawl ganddynt i fod arni yn tu Jlanw â mesnr 0 ofn, nes methu mwynhan en hunain pan