Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD H EDÛ. " A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 207.] MAWRTH, 1898, [Cyf. XVIII. Y LLE GOREU I FYW. " Ti, Arglwydd, fuott yn brcawylfa ì ni yn mliöb cenedlaeth."—Salm xc. 1. JELWIR y Salm hon yn Weddi neu Gân Moses, gẃr Duw- Ac o ran mater, ffugyrau, a clnfansoddiad, y mae y weddi-gân hon yn hollol deilwng ohono, fel mab merch Pharaoh, yr hwn a ddygwyd i í'yny yn holl ddysgeidiaeth yr Aifft, ac fel gwas yr Arglwydd, yr hwn oedd 0 dan fesur helaeth o Ddwyfol ysbrydoliaeth. Gwelir felly ei bod yn hen gân ; mor hen ydyw 0 ran amser, fel y gellir cymhwyso ati ei geirian ei hun, " Mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg Di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos." Mor newydd ydyw drachefn, o ran mater a naturioldeb, fel y gellir dywedyd am -dani eto yn ei geiriau ei hun, " Y boreu y blodeua ac y tŷf." Y mae mor hen, fel yr ä caniadau henaf beirdd y byd yn ienanc yn ei hymyl : ac y mae mor newydd, er yn hen, fel y mae llawer o'r can- iadau diweddaraf, o'u cystadlu â hi, yn myned yn hen, ac yn barod i ddifianu. Cynghaneddodd hi yn gywir a chywrain â bywyd ac âg angeu y cenedlaethau ; a chydodla yn brydferth heddyw â'n hanes ac â'n profiad ninau. Fod Moses yn un o feirdd y dyddiau a fu sydd y tuhwnt i bob dadl; ond y bydd yn un o feirdd y dyfodol, heb i neb 0 feirdd beiddgar ac ymyrgar yr oes oleu hon i glytio ei waith, sydd gwestiwn tra amheus. Credwn, beth bynag, fod anfarwoldeb Moses fel bardd wedi ei sicrhau eisoes, ac y gall y genedlaeth olaf o ddynion a breswyliant y ddaear droi at y gân hon, gan ei chyfarch : "Ti, Fosesgân, fuost yn fywydgân ac yn gladdgân i ni yn mhob cenedlaeth." Bernir iddi gael ei chyfan- soddi tua diwedd taith yr anialwch, ac y mae ei ffugyrau a'i chynwysiad yn ffafriol iawn i'r golygiad hwn.