Skip to main content

CENAD HEDD. "J. Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 204.] RHAGFYR, 1897. [Cyf. XVII. Y DDWY BREGETH FAWR. jRADDODWYD hwynt o fewn pedair blynedd i'w gilydd- Traddodw} d y gyntaf ar fynydd, yn nghanol y wlad ; traddod- wyd yr ail yn un © gynteddau mawrion y deml yn Jerusalem- Iesu, Mab Duw, oedd y Pregethwr ar y mynydd ; Pedr, gynt pysgotwr» ond yn awr dysgybl ac apostol, oedd y pregethwr a draddodai yr ail bregeth. Yr oedd cynulleidfa aruthrol yn gwrando y ddwy bregeth; y gyntaf wedi dilyn yr Iesu i'r mynydd i gael Ei weled a'i glywed; yr ail wedi ymgynull 0 ddwsin 0 wledydd pellenig at wasanaeth crefyddol eu tadau, a Phedr wedi myned atynt heb ueb yn ei ddysgwyl. Ni fu dau bregethwr erioed â mwy o chwant pregethu arnynt, er nad oedd dynion wedi eu galw na'u hurddo i'r gwaith. Ni allent lai na phregethu ; angenrhaid a roed arnynt. " Rhaid i mi weithio gwaith yr Hwn a'm hanfonodd," ebe y cyntaf. " Ni allwn na ddywedom yr hyn a welsom ac a giywsom," ebai yr ail. Y mae Duw Ei Hun yn llefaru wrth ddynion lawer gwaith a llawer modd. Ond trwy yr Efengyl y lleferir mwyaf. Mae hi wedi cynyrchu ysbryd pregethu, wedi gyru dynion i bregethu, wedi agor eu genau, a dodi ynddynt genadwri gwerth ei thraethu. Mae y byd wedi tyru i wrandawei phregethu hi, wedi ei newid ganddo, wedi ei Iwyr chwyldroi. Ni ellir byw mwy heb bregethn yr Efengyl, mwy nag y gall y ddaear ddwyn ffrwyth, a chynyrchu a chynal bywyd, heb gymhorth yr haul. Dylai yr Efengyl gael y dynion goreu o ran gras a dawn i'w phregethu ; canys hwn yw y gallu cryfaf i ddylanwadu i'r dybenion goreu. Pregethu yw gogoniant yr Eglwys—ei thafod. ISid oes dim a fyno hi âg offeiriadu, ac aberthu, ac eiriol, maddeu, a gweinyddu gollyngdod. Dwy bregeth wahanol iawn a draddodwyd gan y ddau bregethwr. Dysgwyliwyd llawer am y Pregethwr cyntaf. Efe a ddaeth at Ei sryhoedd- iad yn Ei amser. Ond nid adwaenid Ef gan y rhai a'i dysgwylient; ac