Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. " A Owaith Gyfiaionder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 202.] HYDREF, 1897. [Cyf. XVII. RHEDEG YR YRFA YSBRYDOL. ^AMP boblogaidd gan y Groegiaid ydoedd rhedeg am y cyntaf er enill gwobr. Oymherir gyrfa Gristionogol i hyny yn fynych yn y Testament Xewydd. Gŵyr pob un am y cyfeiriad yn Heb. xii. 1, 2. Mewn rhedegfa gydymdrechol, y mae amcan mawr mewn golwg. Pan y mae dyn yn rhedeg ar ei eithaf, y mae yn ceisio gochelyd perygl neu gyrhaedd rhyw nôd 0 bwys, ac y mae yn gobeithio llwyddo drwy yr ymdrech galetaf. Bwrir ymaith yn llwyr bob rhwystr : ac mewn crefydd y rhwystr mawr ydyw pechod—ypechod brigog, mwyaf poblogaidd, a'r un y mae mwyaf o fyned arno, a'r mwyaf 0 amgylchu arno. Pan redir, y mae nôd o'r blaen i geisio cyrchu ato—a'r nôd mewn crefydd ydyw Iesu, a'r bywyd tragywyddol geir ynddo ; drwy fyw yn sanctaidd a chadw dyledswyddau yr Efengyl y mae rhedeg yn iawn, ac y mae gweled Iesu yn cyfarwyddo a chaionogi i redeg yn gywir ac yn y modd goreu. Gesyd cynygiwr y wobr bwys mawr ar yr ymdrech, llawn cymaint a'r ymgeisydd ; mae Duw yn llawn mor awyddus i roddi iachawdwr- iaeth i bechadur ag ydyw y pechadur yn awyddus i fod yn gadwedig. Mae gwrthod rhedeg yn sirhad ar Dduw, yn ogystal ag yn beuhod yn erbyn yr enaid. Gan edrych ar Iesu. Dyma y nôd ; ac 0 ! dyir.a nôd ! Mab Duw i'w weled ar ben y rhedegfa yn edrych arnom yn ymdrechu ! Gwelir Ef yn eglur yn y Beibl; dodwyd Ef yn y Beibl i gael Ei weled ; at hyny y mae y Beibl wedi ei ysgrifenu 0 drysorfa datguddiad drwy ddyniou sanctaidd Duw dan ysbrydoliaeth. Edrychir ar Iesu gydag ymwybyddiaeth o wendid a thlodi. Cwyd y rhedegwr ei lygaid i fyny'oddiar dir tlodi at Un cyfoethog—cyfoethog o'r pethau goreu, o fawredd Dwyfol, o urddas dií'esur, 0 awdurdod diderfyn, o farn, ac 0 gariad. Hawliodd Ei fod yn meddu yr holl bethau hyny, a dangosodd hwynt yn Ei fywyd yma. 18