Skip to main content

CENAD H EDD. "A Gwaith Cy/rawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 201.] MEDI, 1897. [Cyf. XVII. CERYG YN PREGETHÜ. J^^NHAWDD eu cael i lefaru, canys y raaent yn gelyd ; pan «Pjrtl) lefarant, ni ddywedant yr oll. Pwy a fedr beri iddynt agor *£*&£& eu genan. A gawn ni gynyg ? Geilw yr Arglwydd Ei Hun yn Graig Israel; Maen a wrthododd yr adeiladwyr; Conglfaen ; Maen profedig ; Maen bywiol ; meini gwerth- fawr a brofir â thân heb eu drygu ; Careg Wen a addewir i'r gorchfygwr; rhaid fod trysor gwerthfawr ynddynt. Rhaid fod egwyddor careg yn Nuw, canys gelwir yr Arglwydd Jehofah yn Graig yr Oesoedd. Ym- guddia y Duwdod mewn natur ; ymlecha teyrnas Tragywyddoldeb mewn amser ; mae galluoedd a gogoniant yn glöedig mewn ceryg. Mae Daeareg wedi rhoddi tafod i geryg. Efnllai fod y llechau roes Jehofah i Moses ar Sinai yn awgrymu y gellid chwilio am ysgrifeniadau ereill Duw mewn ceryg. Mae ceryg yn llyfrau yn cynwys hanesion y cynoesau. Pe medrem eu darllen, gwelem sut yr aeth goleuni yn dywyllwch ; sut yr aeth nwy yn syiwedd caled; y byw yn farw; a'r dwfr yn grofen y ddaear. Dyna y gallesr. Pwy draetha ei dirgelwch ? Sutydaeth mor wahanol mewn sylwedd ac ymddangosiad i'r hyn a'i ffurfiodd? Felly am y pridd mân, y graian, a'r creigiau anferth. Er eu ffurfio bu farw myrddiynau o greaduriaid byw, cnawd, gwaed, ac esgyrn. Bu'r gallestr unwaith yn fyw, ac yn ehedeg ar adenydd drwy yr awyr. A eheda hi eto yn niwedd y byd ? Pa beth sy galetach na'r gallestr, a meddalach na dwfr ? yn gyn- dynach na'r ithfaen, ac yn djnerach nag olew. " Ofna di, ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob, yr Hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a'r gallestr yn ffynun dyfroedd." Efe a ddwg"olew o'r graig gallestr." Mae ff> non 0 ddwfr pur yn y gareg gaílestr ; yn ei holew mae holl brydferthion golenni. Curer ei dôr yn gryf a daw y fflam oleu allan o'i chell. TareWch hi yn chwimwth â darn o ddur, a syrth gwreichion chwilboeth o gylch eich traed. 17