Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhik. 200.J AWST, 1897. [Cyf. XVII. EFENGYLEIDDIAD CYMRU. AE ffyniant Efengyl bur yn ein gwlad yn un o'r ffeithiau hanes- yddol mwyaf swynol a hyfryd. Pan dorodd goleuni yr Efengyl ar y Cyfandir drwy offerynoliaeth Martin Luther, yr oedd Cymru dau gaddug Pabyddiaeth. Yr oedd yr holl Eglwysi Plwyfol, ac nid oedd un addoldy arall yn bod, yn nwylaw yr Eglwys Babaidd. Yr offeiriaid Pabyddol a arweinient y bobl hygoelus yn rnhob peth crefyddol. Credid pob pefch a ddywedent heb un amheuaeth, ac nid oedd ond tywyllwch ac anfoesoldeb yn ffynn, heb neb yn breuddwydio nad oedd pob peth yn iawn yn y byd hwn mewn perthynas â Duw ; a pharotoid pawb i fyd arall drwy urddan a sacramentau yr offeiriaid galluog a charedíg a ofalent am eneidiau yn gydnabyddiaeth am y degwm a dderbynient yn gyffredinol a ddiwrthwynebiad. Ond daeth y Beibl i Loegr a Chymru, a chwalwyd y cwmwl dndew a phygddu o'r ffnrfafen, a thorodd goleuni y Diwygiad Protestanaidd dros ein hynys. Harri yr Wythfed, i'w amcanion llygredig ei hun, a barodd i'r offeiriaid oll, ar berygl colli eu penau neu roddi eu cyrff yn danwydd i'r fflamau, droi eu hufudd-dod oddiwrth y Pab a'i gymeryd ef yn Ben yr Eglwys. Hyny a wnaeth holl offeiriaid Cymru. Ni chymerodd neb ohonynt ei ferthyru er mwyn Pabyddiaeth. Yr oedd bywyd yn felus, a degwm yn angen- rheidiol er ei gynal. Er i'r offeiriaid droi, yr oedd y bobl yn parhau yn Babyddion am ddwy neu dair cenedlaeth. Nid oedd ganddynt flas belìach ar lithiau Protestanaidd y Llan. Yn raddol, collasant en had- nabyddiaeth a'o cynefìndra â gwasanaeth yr Hen Eglwys o Rufain, ac aeth y werin yn ddigrefydd ac yn esgeulaswyr o'r Llanau. Ni cheid yn y gwasanaeth Eglwysig ar y Suliau a'r gwyliau ond teulu yr offeiriad a'r clochydd. Nid oedd pregethu yn un rhan o'r gwasanaeth. Ni heuid y gwir, ac ni cheid cnwd 0 rinwedd a duwioldeb. Gwelodd John Penri 0 làn Irfon, yn ngwlad Brychan, gulni ysbrydol y wlad; ceisiodd efengyleiddio ei gydgenedl anwybodus ac annuwiol, a'r gwŷr Eglwysig, o'r archesgob i lawr i'r iselaf radd, a ddigiasant wrtho, ac a'i crogasant 15