Skip to main content

CENAD HEDD "A Gwaith Gyjiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhih. 199.] GORPHENHAF, 1897. [Cyf. XVII. YMWELIAD Y GWAREDWR A ZACCHEUS. (AWN hanes y dyn yma, Zaccheus, yn nglŷn â mynediad ein Harglwydd Tesu Grist drwy Jericho, a hyny tua Jerusalem. Jericho ydoedd ddinas 0 hynafiaeth mawr, ac yn nesaforan maintioli i Jerusalem o holl ddinasoedd Canaan. Ymosodwyd ar Jericho gan Israel, a syrthiodd muriau y ddinas mewn modd gwyrthiol ; lladd- wyd yr holl drigolion ond Rahab, a llosgwyd y ddinasâ thân. Diofryd- wyd hi i anrheithiad parhaus, a bygythiwyd melldith ar y dyn a wnai ei hail-adeiladu. Disgynodd y felldith hono ar Hiel, y Betheliad, yr hwn a geisiodd ymwneyd â hyny. Dywedir mai yr un yw yr ail Jericho a Dinas y Palmwydd, lle yr oedd Eliseus yn trigo, ac y rhoddwyd golwg i ddau ddeillion gan yr Arglwydd íesu. Yn amser y Gwaredwr, yr oedd Jericho yn ddinas Iwyddianus, yn cynwys palas haidd adeiladwyd gan Herod, marchredfa, ac ymchwareufa; ond fe ddywed haneswyr nad yw hi yn bresenol ond pentref tlawd ac aflan o ddeugain neu haner cant o'r tai tlotaf. Yn Mhalestina, cyfarfyddir â'r sycamorwydden a'r ffigysbren yn fynych yn nghymydogaeth dinasoedd, wedi eu planu wrth ochr y ffordd, ac yn y manau agored, lle cyfarfydda amrywiol lwybrau. Yn Syria, meddai haneswyr, ymddengys fod y ffigysbren yn gyrchle dewisol i bobl ieuainc, y rhai mewn rhifedi mawr a dreuliant eu horiau hamddenol rhwng y cangenau, gan edrych ar y teithwyr odditanodd. Fel hyn, gallwn sylweddoli y darlun dyddorol roddir i ni yn yr hanes. Mae y Gwaredwr yn myned trwy Jericho, ar Ei ffordd i fyny i'r ddinas—Jerusalem—lle y mae i gael Ei draddodi i'w groeshoelio a'i roddi i farwolaeth. Mae Ei ddysgyblion gydag Ef, a chanlynir Ef gan dyrfa fawr, oblegid erbyn hyn yr oedd clod am Ei wyrthiau lluosog (un newydd gael ei gwneyd ar Bartimeus ddall) wedi creu awydd cyffredinol yn y bobl am Ei weled Ef, o'r tlawd iselaf hyd y brenin ar ei orsedd. A dyna ddywedir am Zaccheus, " Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd," neu pa fath un ydoedd, neu pa fodd yr edrychai. Yr 13