Skip to main content

CENAD HEDD " A Gwaith Cyfiawnder fydd Heddwch."—Emiah. Rhif. 197.] MAI, 1897. [Cyf. XVII. DYLEDSWYDD MEISTRI TÜAG AT Eü GWASANAETHWYR. HAN o'r cwestiwn mawr o berthynas meistr â gweithiwr yw y pwnc uchod. Nid yw y gangen yma wedi cael llawer 0 syìw y Wasg a blaenoriaid y bobl, ac, 0 bossibl, nad oes eisieu chwaith ; eto, nid dyogel yw esgeuluso edrych arno. Nid oes un dosbarth, heb feddu undeb yn eu plith eu hunain, wedi gwellhau eu sefyllfa yn fwy na gwasanaethwyr ein gwlad. Fe gydnabyddir fod gwasanaethwyr ein gwlad heddyw yn llai 0 rif nag oeddynt ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? Y mae y dull 0 amaethu wedi cyfnewid yn fawr. Gelwir hefyd am gymhorth peirianau o bob math i wneyd mwy o waith â llai o ddynion. Fel hyn, nid yw y gofyn gymaint ag y bu am wasanaethwyr, eto, ceir mwy o anhawsder i gael gwasanaethwyr cymhwys na'r adeg yr oedd y galw yn fwy. Cyfyd yr anhawsder 0 ddwy ffynonell yn benaf. (a) Anewyllysgarwch rhai a ddygir i fyny mewn trefydd a phen- trefydd i fyned i wasanaethu i ffermdai. Gynt cai ein hamaethwyr eu gweision goreu, a digon ohonynt, o blith y plant a fegid yn y bythynod ar y tiroedd, ond y mae y ffynonell hon wedi sychu, a rhaid troi 1 gyfeir- iadau ereill. Bir i Loegr, i ysgolion neillduol, ac y mae y llwyddiant yn dra amheus. Yn adfeilion y mae y bythynod hyn, ac ni ellir rhoddi y bai yn llwyr ar y perchenogion—rhaid i'r ffermwr. hefyd ddwyn rhan o'r gwaradwydd. (b) Y mae yn anhawdd gan ddynion ieuainc droi allan i weithio ar y tiroedd, am nas gwelant ond ychydig o le i wellhau eu hamgylchiadau. Ychydig o weision sydd yn ymgodi i ;fod yn ffermwyr. Yn ngwyneb hyn, troant i gylchoedd ereill, lle y cânt-fwy o dâl am eu gwasanaeth. Y mae Mynwy,.a Morganwg, a Llúndain, yn denu ein pobl ieuainc i adael