Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD "A Gwaith Oyftawnder jydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. igö.] MAWRTH, 1897. [Cyf. XVII. "BYDD GOLEÜNI YN YR HWYR." (Zech. XÌ7. 7.) 'OR fynych y bu felly yn y byd cymysglyd oddiar ei ddechreuad. Yn hwyr y chweched dydd y derbyniodd Adda ei briodferch o law ei Wneuthnrwr, a hyny ar ol creu bwystfilod y maes, yr adar, y pysgod, a'r holì ymlusgiaid, pan, er yn nghanol yr holl greadur- iaid, y gwelai Duw fod dyn ei hunan. Cadwyd rhodd benaf Paradwys heb ei chyflwyno iddo hyd y noson olaf o'r wythnos gyntaf. Syrthiodd dyn. Llanwyd holl gyrau y ddaear â thrais. Gorchudd- iodd y diluw y byd oedd y pryd hyny. Arch Noah a nofiai ar wyneb y môr digeulan. Yna aeth y golomen allan yn y boreu, a dychwelodd ato yn yr hwyr, ac, wele, ddeilen olewydden yn ei phig; a Noah a wybu dreio o'r dyfroedd oddiar wyneb y ddaear. Dyna hwyr o obaith oedd hwnw iddo ef a'i deulu, wrth sylwi ar yr awyddlun gwyrddlas 0 heddwch a chariad. Aeth pedwar canrif heibio. Ymdeithiai tad y ffyddloniaid yn nhir newyn mewn gwlad ddyeithr. Mewn gweledigaeth clywai lais yn ei gyfarch: " Nac ofna, Abraham, Myfi yw dy darian a'th wobr mawr iawn." Gweddiai Abraham am arwydd o'r etifeddiaeth. Daeth trwm- gwsg arno. A phan faehludoid yr haul, ac yr aeth yn hwyr, wele ffwrn yn mygu a lamp yn llosgi, a chafodd addewid rasol o adnewyddiad y cyfamod : "I'th had di y rhoddaf y tir hwn, ó afon yr Aifft hyd yr afon fawr." Bu goieuni yn yr hwyr. Cyflawnwyd yr addewid. Ganwyd Isaac, mab y chwerthin. Yr oedd eisieu gwraig arno. Yn mha le y ceid un gymhwys i etifedd y byd ì Anfonwyd Eliezer ffyddlon i Rhwng- yr-Afonydd. Gweddiodd wrth bydew dwfr ar brydnawn. Cyn gorphen llefaru wrth Dduw, daeth y brydferth Rebecca. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyuy, aeth Isaac i fyfyrio yn y maes yn yr hwyr; a phan ddyrchafodd ei lygaid, efe a welai gamelod yn dyfod. Adroddwyd yr hanesyn syml yn fuan. Isaac a ddug Rebecca i babell ei fatn, ac aeth hi yn wraig iddo ; ac eie a'i carodd hi, ac efe a gysurwyd ar ol ei fam.