Skip to main content

CENAD HEDD " A Gwaith Gyfìawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. i87.] GOEPHENHAF, 1896. [Cyf. XVI. PAUL YN GOSOD GWERTH AR GRIST. jN ei Epistol at y Philippiaid cawn yr apostol yn pwyso Iesu Grist yn y gíorian, ac yn ei gael nid yn brin, fel y brenin hwnw gynt yn y wledd, ond yn fwy ei werth na dim a fedd y byd. Noda amryw resymau cryfion oedd ganddo dros gredu fod ei gyflwr ysbrydol a'i ragolygon bydol yn hynod o addawol. Meddai ar bob un o'r cymhwysderau hyny fyddai Hebrëwr yn arferol o ystyried yn perthyn i hanfodion iachawdwriaeth. Mewn gwaedoliaeth yr oedd yn bur, mewn cymeriad yr oedd yn ddifrycheulyd, mewn sêl yr oedd yn frwdfrydig. Agorai y ffordd yn glir o'i flaen iddo gael mwynhau y breintiau uchaf allai undyn gyrhaedd o dan aden crefydd y deddfau a'r seremon'iau. Yr oedd dysgeidiaeth, enwogrwydd, clorl, a chyfoeth oll yn symbylau nerthol i'w uchelgais. Gallasai fod yn aiJ Gamaliel, yn athraw clodfawr yn Israel, a goreuon ieuenctyd Iuddewiaeth yn ymdyru i'w ysgol, i yfed geiriau doethineb o'i enau, ac i wasgar perarogl ei ddysgeidiaeth a'i enwogrwydd yn mhlith ei gydwladwyr drwy bob ban o'r byd. Arhöai anrhydedd hefyd, a golud o ddichon, i guroni blyn- yddoedd anterth ei Iwyddiant ac addfedrwydd ei yrfa. Ond nid felly yr oedd pethau i fod. Yr oedd Ewyllys uwch eisoes ar waith, yn cynllunio i Paul gael urddas a chlod llawer mwy nag y gallai fyth enill iddo ei hun. Daw tro yn fuan ar yr erlidiwr penboeth, ac fe'i gwneir yn apcstol selog. A cheir gweled cyflawni'r cynJlun hwn tra mae'r erlidiwr ei hun yn gwneyd ei oreu i'w orchfygu. Tra y mae efe yn ei awen fygythiol yn ceisio diffodd gogoniant ei anwyl Fab, fe wêl y Tad yn dda, drwy ddiatreg dröedigaeth, oedd mewn cydgordiad rhyfeddol âg aiddgarwch ffyrnig yr erlidiwr ei hun, i ddatguddio ei Fab Iesu Grist ynddo; ac o'r mynyd hwnw daw pobpeth yn newydd iddo. Mae Iesu Grist, oedd eiliad o'r blaen yn ddibris ganddo, wedi dyfod yr awrhon oll yn oll yn ei olwg. Mae ei farn bresenol am Iesu Grist, a'i farn flaenorol am Iuddewiaeth, wedi newid Ueoedd. O'r blaen, fe 13