Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD " A Gwaith Cyftawnder fydd Heddwch."—Esaìah. Rhif. 186.] MEHEFIN, 1896. [Cyf. XVI. CYFIAWNHAD TRWY FFYDD. \R athrawiaeth hon 0 Gyfiawnhad trwy Ffydd yw hanfod yr Efengyl. "Ar y graig ddiysgog hon," meddai ein hybarch Brifathraw Dr. Morris, "yr adeiledir yr Églwys, a gyda hon rhaid iddi sefyll neu syrthio." Gair cyfreithiol yw cyfiawnhad, ac yn cael ei ddefnyddio i ddynodi troseddwr o'r ddeddf wedi ei brofi a'i gael yn ddi- enog. Nid yn unig y niae y pechod wedi ei faddeu, ond y mae y pechadur wedi ei gyfiawnhau. Y mae y tystiolaetb.au i'w erbyn, a phob peth o'i blaid wedi eu galw; y mae y barnwr wedi eu clorianu, ac o'r diwedd yn ei gyhoeddi ef yn gyfìawn. Dygir y canlyniad bendigedig yma o gylch drwy osod " cosbedigaeth ein heddwch ni arno Ef," a'n hiachau " trwy ei gleisiau." Yr Hwn nid adnabu bechod a wnaed yn bechod trosom ni, fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo Ef. Trwy ffydd ynddo Ef y cyfiawnheir dyn—ond nid ffyddsydd yn cyfiawn- han ; Crist yw yr Hwn sydd yn cyfiawnhau. Ffydd yw'r fraich sydd yn ymafiyd yn nghyfiawnder Orist—y gadwyn sydd yn rhwymo dyn wrth Ei berson, y weithred o'i gofieidio. Deffinir Cyfìawnhad trwy Ffydd fel y canlyn : Cyfrifir ni yn gyfiawn ger bron Duw yn rhinwedd ein Harglwydd a'n Gwaredwr Iesu Grist, trwy ffydd yn unig, ac nid trwy ein gweithredoedd. Felly gweith- red ydyw cyfiawnhad sydd yn ein cyfrif yn gyfiawn, ac nid gweithred ag sydd yn ein gtuneyd yn gyfiawn. Nid yw y dyn sydd wedi ei gyfiawn- had yn peidio a bod yn bechadur, ond nid yw Duw yn cjfrif pechod iddo. Dyma wrthddywediad ma« r yr athrawiaeth hon, fod y " Duw na all edrych ar anwiredd a phechod " yn cyfrif dyn yn gyfiawn, ac yntau yn weithredol heb fod yn gyfiawn. Nid yw cyfiawnhad yn dadwreiddio ein hen natur lygredig; mynych y cyflawna y cyfrifedig gyfiawn weithred- oedd gondemnia ei galon. Yn ngwyreb hyn, priodol iawn y gallwn ofyn gyda Phanl, " Wrth ba beth y mae i ni fesur dyn ? Wrth ei ffydd, neu ynte wrth ei weithredoedd ? " Dywedai Iuddewiaeth mai wrth ei weithred- oedd ; wrth ei gyfiawnder gweithredol y mae mesur dyn. Nid oedd hwn 11