Skip to main content

CENAD HEDD. "Â Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 183.] MAWRTH, 1896. [Cyf. XVI. Y PEDWAR DYN. Eithr genyffi bychan iawn ywfy marnu genych chwi, neu ganfam dyn: ac nid wyf chwaith ynfy marnu fy hun. Oanys ni wn i ddim arnaf fy hun ; ond yn hyn nVm cyfiawnJiawyd; eithr yr Arglwydd yw yr Hwn sydd yn fy marnu."—1 Oob. iv. 3, 4. JELLIR ystyried fod yn mhob dyn bedwar dyn. Yn gyntaf, y Dyn fel y mae y byd yn ei weíed.—Edrycha y byd ar bob un ohonom, a gwel ryw lnn ynom. Wrth sylwi ar ein geiriau a'n gweithredoedd, ffurfia ei farn am ein galluoedd a'n cymer- iad. Onid yw yn hynod meddwl fod yn y dref neu yn yr ardal yr ydym yn byw ryw farn gyhoeddus am bob un ohonom. A dywedir y farn yn gyffredin mewn modd byr iawn, megys dyn da yw, neu ddyn drwg; dyn sobr neu yfwr cwrw; dyn hael neu ddyn cybyddlyd; dyn caredig neu ddyn caled ac ato ei hun ; dyn gwybodus, ac y mae yn gwybod hyny yn dda. Ychydig ohonom sydd yn gwybod yn gywir pa beth yw barn y cyhoedd yn ein cylch, ac, efallai,' er mwyn ein cysur, mai da iawn yw hyny. Dyma y dyn cyntaf—y dyn a wêl y byd. Tr ail Ddyn yw yr un a wêl yr hwn a'i hadwaen ef oreu.—Gall hwn fod yn hollol wahanol i'r dyn a wêl y byd ; canys y mae dwy ochr gan bob dyn—un i'w dangos i'r byd, ac un arall i'w dangos i gyfaill ei galon. Dyma fy nghyfaill i ; dywed y cyhoedd mai gwr tawel, heb feddwl, yni, profiad, na chymeriad cryf ydyw ; ond gwn i mai dyn siriol, bywiog, ymddyddanus, llawn o í'eddyliau dyfnicn a gwreiddiol ydyw, yn werth ei bwysau 0 aur, fel y dywedir. Mae llawer engraff gyffelyb y gwyddis am danynt. Ni ddengys dyn gwylaidd ei ochr oreu i'r cyhoedd ; nid yw yn ymddihatru ei hugan uchaf ond yn ystafell ddirgel ei gyfaill. Yn y cyhoedd mae yn hurt, garw, a lledchwith, ond yn mhlith y rhai a gar ac a edwyn mae yn llyfn, hyfedr, agored, a siaradus. Wel, a yw yr ail ddyn yma yn well na'r cyntaf? Gobeithio ei fod. Gallwn ddywedyd am rai eu bod yn fwy tyner, serchog, a chywir nag y gŵyr y byd am danynt. 5 ' " " '