Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

207 MR. MORGAN PHILLIPS. XW ei rieni ydoedd John a Gwenllian Phillips—dau berson o gyneddfau cryfion. Addysgwyd John Phillips yn Ngholeg Pontfaen, Bro Morganwg. Ystyrid ef yn ysgolhaig da, ac yn gymaint awdurdod yn inhlwyf Ystradyfodwg a'r offeiriad, yr hyn beth oedd yn anrhydedd nid bychan 80 mlynedd yn ol. Arferai amaethwyr y cwmpasoedd apelio ato am gynghor i wneyd eu cyfrifon, ac mewn amryw foddau ereill, a llawen oedd ganddo eu gwasanaethu bob amser. Ganwyd Mr. M. Phillips mewn amaethdy o'r enw Rhondda Fechan, Ystradyfodwg, sir Forganwg, Medi 20fed, 1820. Bu farw ei fam pan nad oedd ef ond ychydig wythnosau o oedran, a daeth ei ofal i ran ei chwaer, Gwenny—merch nodedig o ofalus, medrus, a duwiolfrydig, coffadwriaeth yr hon sydd fendigedig. Hi ydoedd mam y diweddar seraffaidd Thomas Llewelyn Jones, Pontypool. Yr oedd John Phillips, Morgan Phillips, a'r meibion oll—haner brodyr Mr. Morgan Phillips— yn nodedig o olygus yn eu hymddangosiad naturiol—yn dàl, cymesurol, a thywysogaidd, "wedi eu geni i arwain." Bu pedwar ohonynt— Morgan, Thomas, Abraham, a Phillip—yn arolygwyr gwaith glo. Yr oedd William, Richard, Phillip, a Morgan yn rhai o'r aelodau mwyaf gweithgar, ffyddlon, a defnyddiol Bethlehem, Pentyrch, a'r tri olaf ohonynt yn ddiaconiaid. Mr. Thomas Phillips yw yr unig un o'r teulu sydd yn awr yn fyw; teimla ei unigedd, " canys c.^ympodd y cedrwydd." Efe sydd yn arolygu gwaith glo Llangynwyd, ger Maesteg, yn bresenol. Yr oedd Mr. Morgan Phillips yn briod da ac yn dad gofalus. Yr oedd yn nodedig am roddi addysg dda i'w blant. Argraffai arnynt y pwysigrwydd o feddu gwybodaeth a fyddai yn gymhorth i droi yn eu gwahanol gylchoedd, i wynebu bywyd, i orchfygu aahawsderau, ac i brofì eu hawl i fodolaeth drwy ymarweddu yn deilwng, ac yn hyn cyflawnwyd ei ddymuniad, a choronwyd ei ymdrechion. Mae y meibion oll mewn safleoedd o barch a defnyddioldeb, a'r tëulu oll yn aelodau eglwysig—y mab hynaf, y Parch. D. Phillips, yn weinidog yn Pontnewynydd, Pont- ypool; yr ail fab, John, yn aelod cyson yn Mynydd Seion, Casnewydd ; a'r lleill yn aelodau ymroddgar yn Bethlehem, Pentyrch. Bu Mr. Morgan Phillips hyd 1873 yn wrandawr cyson gyda'r Bedyddwyr—Bedyddwyr oedd ei rieni. Tua'r flwyddyn 1873, ymaelod- odd yn Bethlehem, Pentyrch. Adwaenid ef fel un o wrandawyr goreu'r ardal. Elai i'r capel, nid fel arferiad yn unig, neu er mwyn treulio'r amser, nac ychwaith i feirniadu, ond i wrando'r Efengyl. Yr oedd arno eisieu cael y gwasanaeth drwyddo. Credai mewn bod yn bresenol cyn i'r emyn cyntaf gael ei ddarllen, a chredai fod Duw a'i dŷ yn cael eu han- rhydeddu wrth fod y gynulleidfa i gyd yn bresenol i ddechreu yr addoliad; a golygfa brydferth iddo oedd gweled cynulleidfa yn bresenol i gyd-