Skip to main content

CENAD HEDÛ. " A Owaith Gyfiawnderfydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. iio.] CHWEFROR, 1890. [Cyf. X. GALW AR DDUW. " Cyfod, galw ar dy Dduw"—Jonah i. 6. JMA ceir llong mewn cyfyngder, a phob un ond Jonah yn gwneyd ymdrech i ddyfod allan o'r cyfyngder yn ddyogel. Er mwyn troi Jonah yn ol at ei ddyledswydd y daeth yr ystorm hon, fel swyddog ustus i ddal dyn drwg pan yn ffoi ymaith. Cyfaddefodd Jonah hyny pan ddeffrowyd ef, a dywedodd yn onest mai y ffordd i ddianc o'r cyfyngder oedd drwy ei daflu ef i'r môr. Felly y bu. Pan ddisgynodd y proffwyd i'r dyfnder, aeth y gwynt a'r môr i dymher dda yn ddioed. Aberthodd Jonah ei hun er mwyn achub y morwyr. I'r un dyben y bu Crist farw, er rhoddi ei einiöes yn bridwerth dros lawer. Mae yr Athraw mawr yn cydnabod dilysrwydd yr hanes. " Megys y bu Jonah yn mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn yn nghalon y ddaear." Nid oedd pysgodyn digon mawr i lyncu dyn yn y môr hwnw, meddai y gwrthgredwr, nac awyr iach i anadlu ynddi am dri diwrnod yn ei gylla. Grwir iawn, ond nid deddfau natur sydd yma, ond gwyrth ; gall gwyrth wneyd llety Jonah am dridiau mor iach a phen yr Ẅyddfa, a chysurns ag ystafell eangaf palas ein Brenines yn Ynys Wyth. Yr oedd Duw yn rhodio gyda dynion yr amser hwnw. Yr oedd plant dynion yn ieuainc, ac yn gofyn am bresenoldeb y Tad yn fwy mynych ac amlwg na phan y daethant yn wŷr. Am hyny, rhaid oedd wrth wyrthiau. " Enoc a rodiodd gyda Duw ;" yr oedd y Duwdod gydag ef weithiau mewn ffurf weledig; yr oedd rhywbeth yn y rhodio hyny heblaw byw yn dduwiol iawn. Anfonwyd y proffwyd hwn at y Ninefeaid. Yr oedd yr anfoniad hwn at' estroniaid Cenedlig yn eithriad yn yr oruchwyliaeth hono. Gwnaed Jonah yn fath 0 Ioan Fedyddiwr i genadon Cristionogol i blith y paganiaid. Mae anhawsder yn y gwaith gyda chrefydd yn peri i ddyn da weithiau, fel Jonah, i geisio ei osgoi, a chilio rbagddo. Efallai yr ofnai beryglon y daith faith a blin drwy yr anialwch cras, a cherygog, a phoeth hyd Ninefe, neu ofnai y peryglid ei fÿwyd yn Ninefe pan glywai