Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 63.] MAWRTH, 1886. [Cyf. VI. AMIWEIRDEB. ANEECHIAD AT BOBL IEUAINC. (REDAF, pe gellid eich argyhoeddi 0 fawr ddrygedd y pechod hwn, ac anghyfreithlondeb yr arferiadau a arweiniant yn gyffredin iddo, yr enillid chwi i sefyll yn benderfynol yn ei erbyn. Carwn yn fawr weled y dydd y gellid dyweyd am ieuenctyd gweddu i fodau cyfrìfol ac anfarwol. Nid ydyw yn ddiarwybod i ch'wi fod y cyfeillachau rhagbarotoawl i'r ystad briodasol yn terfynu yn fynych mewn gofìd a gwarth. Pa fodd hyny ? Paham y mae pobl ieuainc ein gwlad yn myned i sefyllfa bwysicaf bywyd drwy dynu arnynt eu hunain ŵg Duw, heb nodded a boddlonrwydd yr hwn nid oes i'w ddysgwyl ond chwerwder a siomedigaeth ? Gadawaf i chwi ateb hyn i chwi eich hunain. Nis gall fod yn ddibwys. Nid oes modd lliniaru pechadurus- rwydd yr ymddygiad. " Nis gall amgylchiadau na phrofedigaethau newid natur gorchymynion a gwaharddiadau pendant deddf ac Éfengyl. " Na wna odineb " oedd, ac ydyw, gorchymyn yr Arglwydd i bob dyn. Na wna hyny byth, ac na wna hyny mewn un modd. Mae y gair godineb, yn y deddf foesol, 0 ystyr eang a chyffredinol, yn cynwys pob math o buteindra ac anlladrwydd. Deddf Duw yw rheol trefn a gwedd- usrwydd—y llinell derfynol rhwng sancteiddrwydd a phechod. Myned drosti sydd anhrefn, pechod, a gwrthryfel yn erbyn Duw. Gwn fod rhai yn gwenieithio iddynt eu hunain fod y bwriad 0 briodi yn cyfreithloni i raddau, os nid yn holiol, yr arfer o gydorweddcyn myned yngyhoeddus i'r cyflwr priodasol. Na thwyller chwi â dychymygion ofer—ni wnant