Skip to main content

Y DIEWESTWR A'E HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOI., AC ANNIBYNOL URDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yr wyf yn yrarwymo yn wirfoddol i Iwyr-ymwrthod â Gwiybyroedd Meddwawl; i beiiiio na rhoddi na chynygy cyfryw i tiebarall; ac yn mliob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achlysuron oannghymedroldeb." CYF. V.] HYDREF, 1844. [Rhif. LI. TEML SOBEWYDD. (Parhad o tudal. 135.) A pheth mwy a ddywedwn ? canys yr amser a ballai i ni fynegi am yr holl wýr ieuainc Nazareaidd a gyfodwyd o oes i oes gan Dywysog tir Emanuel, ac a osodwyd ganddo yn fanerau ar ei dir, ac i fod yn arwyddion ffordd i gyfeirio trigolion y gwastadedd dros Foelystyriol a Bryndir- west tua Mynydd Seion:—Am Ddaniel a gauodd safnau y llewod—am Sadrach, Mesach, ac Abednego, a ddiffoddasant angerdd y tân—am Samuel a Samson a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio, y rhai y mae eu henwan a'u coffadwriaeth yn fen- digedig, ac fel yr enaint tywalltedig, yn arogli yn esmwyth, yn beraidd, ac yn hyfryd hyd heddyw yn y byd llygredig y buont ynddo yn byw. Bu y gwŷr hyn holl ddyddiau eu beinioes yn tynu cycllun cywir a pherffaith o Deml Sobrwydd, nid ar lech- au ceryg proffes, mewn gair yn unig, ond ar lechau euraidd bywyd ac ymarweddiad, mewn gweithred a gwirionedd. Achan eu bod yn sefyll ar bea Craigymattal, yn ddi- gon pell o gyrhaedd tonau cynddeiriog yr afon feddwol, y rhai a ewynant allan dom a llaid, ni lychwinwyd eu dillad ganddynt: ac yn awr, y maent yn rhodio gyda'r Oen ar fynydd Seion, mewn gwisgoedd gwyn- ioa, a phalmwydd yn eu dwylaw, a choron- au o aur ar eu penau. Purach oedd y Nazareaid hyn nâ'r eira, gwynach oeddynt nâ'r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff nâ'r cwrel, a'u trwsiad oedd o Saphir. Yn awr, wedi darllen a dwys ystyried yr holl hanesion hyfryd hyn, daeth i gôf rhai o'r ymofynwyr difrifol yr hyn a welsent ychydig flynyddau cyn hyny. Fel yr oedd- ynt yn gosod i lawr sylfeini Teml Corsym- ollwng; yn nghanol y prysurdeb mwyaf, cyffrowyd hwy gan sẁn gwŷr, gwragedd,a phlant, yn chwerthin, yn ysgrechian, ac yn bloeddio nerth csgyrn eu penau; ac erbyn iddynt edrych o'u hamgylch, beth a welent ond trigolion Pentre'relw a Llanfelial wedi hel eu gilydd allan, o fychan hyd fawr, i Iygadrythu, fel ffyliaid, ar ychydig ddynion diniwaid a ffoent yn ddychrynedig am eu bywyd rhyngddynt a Moeh styriol; y rhai a gyfarchent ar eu bymadawiad â liwon, â rhegfeydd, ac â melldithion, ac a anrheg- ent â chyflawnder o ddiimyg, o wawd, aco waradwydd, ffrwythau gwenwynig cenfig- en, malais, a diygioni, prenau dewisol gerddi a pherllanau y pentrefydd hyny. A'r hyn a ddychrynodd gymaint ar yr ychydig ddynion hyny oedd gweled yr afon feddwol yn ymchwyddo yn ofnadwy dros ci cheulanau, ac yn ymledu o flwyddyn i flwyddyn gyda phrysurdeb digyöèlyb, fel pe buasai am orchuddio yr holl wastadedd