Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR A'B HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOE, AC ANNIBYNOL TJRDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl; i beidio na rhoddi na chynyg- y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achìysuron o aoghymedroldeb.' CYF. V.] GORPHENAF, 1844. [Rhif. XLVIII. SYLWADAU AE 1 BREN. XX. 42. (Parhad tudal. 55.) Yn III. Y canlyniad o ollwng meddwdod ymaith.—"£>y einioes difyddyn Ue ei einioes ef, a'th bohl di yn lle ei bobl ef." Y peth mwyaf pwysig a ddichon i ni byth ymyraeth âg ef ydyw, pwnc yr einioes, eto, er mor bwysig ydyw, ceir dynion gydag ef fel rhai yn cellwair; a hyny o herwydd diffyg adnabod gwir werth bywyd. Y mae adnabod gwir werth bywyd yn dysgu dyn- ion i wneyd iawn ddefnydd o hono, a chy- meryd y gofal angenrheidiol am dano; ond y mae gollwng meddwdod ymaith, yn peryglu bywyd mewn tair ystyr:— 1. Y mae meddwdod yn dyfetha bywyd -deftiyddiol. Hyny yw, y mae meddwdod yn gwneyd y meddw yn amddifad o ddef- nyddioldeb dyn sobr, iddo ei hun, i'w deulu, ac i bob cymdeithas y byddo mewn eysyllt- iad âhi; oblegid, am yr holl swyddau, y rhai y gelwir dynion iddynt, ac y mae dynion yn ddefnyddiol ynddynt, yn wladol neu yn eglwysig, I ba un o honynt y gelwir am y meddw, un amser? Ac yn mha le y mae y sefyllfa hòno, lle mae yn angenrheid- iol cael meddwyn i fyw ynddi? Hawdd y gallaf ddyweyd, nid oes y gyfryw sefyllfa ar y ddaear, ac nid oes angenrheidrwydd am feddwdod yn mhlith dynion. Oblegid, pan yr edrychwn ar feddwdod yn cyniwair yn mysg ieuenctyd ein gwlad, gan eu meddiannu yn nechreuad eu ffordd, y mae hyny yn dangos sefyllfa ein gwlad yn un anobeithiol iawn; oblegid, pan feddyliom am gael dynion defnyddioî yn y byd, rhaid i ni edrych am danynt o blith yr ieuenctyd; 0 herwydd, ffolineb ydyw i ni ddysgwyl gweled dynion defnyddiol iawn i'r byd ya cyfodi o blith y rhai sydd yn dechreu crymu gan amlder dyddiau, oblegid y mae eu holl rinwedd hwy wedi ei ddwyn alian, ac adeg eu holl ragoroldeb wedi myned heibio; eu cyfansoddiad yn prysur ym- grynhoi i sefyllfa fabanaidd eilwaith, a rhanau y corff yn methu agor ffordd i allu- oedd eu henaid, a'u nerth yn esgor ar boen a blinder, a'u holl natur yn gwywo o fìaen awelon gwenwynllyd marwolaeth. A pha ragoriaeth a allwn ddysgwyl oddiwrth y cyfryw rai. Ond, pan edrychwyf i fysg yr ieuenctyd, yma yr wyf yn canfod sirioldeb, braidd ar bob wyneb, a bywiogrwydd yn mhob teimladj y synwyr yn cryfhau bob dydd, y meddwl yn ystwyth i ymehangu am drysorau gwybodaeth, a hoìl ragoroldeb dynoliaeth yn ymagor, gan ymwisgo â phrydferthwch. Felly, ar yr ieuenctyd yr edrych yr holl gylch gwladwriaethol am barhad, o blith yr ieuenctyd yrydymyn- dysgwyl cael milwyr a morwyr, arnynt hwy y mae Ilygaid y masnachau a'r cel- fyddydau, a hwy ydyw gobaith yr oes a ddaw. Ond, os gweithia meddwdod ei ffordd yn mysg ieuenctyd ein gwlad, fe'ri siomir yn y dysgwyliadau mwyaf gobeithiol. 1 ba le, gan hyny, yr edrychwn am athron- yddion moesol, i faetfcu rhinwedd? O ba le