Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL ÜRDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddolilwyr-ymwrthodâ Gwlybyroedd Meddwawl; ibeitlio na rhoddi na ehynyg y cyfryw i tieb arall; ac y'mhob modd i wrtlisefyll yraehosion a'r achlysuron o anghymedroldeb." CYF. V.] MEHEFIN, 1844. [Rhif. XLVII. AT WEINIDOGION Y WESLEYAID, YN NGHYMRU. Barchedigion,— Goddefwch i un ag sydd yn teimlo yn gynes tuag at Achos y Wesleyaid, ac hefyd tuag at bob ua o'r Proffeswyr, eich annerch. Nid oes genyf ddira mewn golwg ond lles y Corff, y Pre- gethwyr, a'r Aelodau, pan yn ysgrifenu y Uinellau yma. Yr ydych, yn Bregethwyr, yn Flaenoriaid, ac j n Aelodau, yn lled gy- ffredin,wedi bod, ac y n parhau i wrth wynelu Dirwestiaeth, ac y mae rhai o'ch brodyr wedi bod mor annghristionogol (nid oes arnaf ofn dyweyd annghristionogol, canys yr ydwyf yn gwybod, jn ol yr hyn a ddar- llenais o'm Beibl, na ddarfu Crist wrth- wynebu yr un achos da, yn ystod ei yrfa ddaearol, ond yr ydoedd yn myned oddi- amgylch gan wneuthur daioni,) a sefyll i fynu i wrthwynebu Dirwestiaeth yn gy- hoeddus; er, efallai eu bod yn fwy gouest niewn rhyw ffordd na'r brodyr sydd yn chwareu part y "Neidr yn y glaswellt." Yn awr, os nad yw Dirwestiaeth yn gwbl ag y niae ei phroffeswjr yn dyweyd ei bod, y mae o leiaf yn fwy daionus na drygionus, oblegid y mae yn pregethu yniwrthodiad â drygioni, yn lle parhad ynddo. O ganlyniad, pe baem yn addef iddi fod, ar y goreu, ond dyfais, o du yr hon ni's gallwn ddyweyd dim mwy na'i " bod yn fwy cjfiawn nac annghyfiawn," a"rhywbeth gwell na dini- waid yn unig." Hyd y nod ar y tir yma, dylasai Teetotaliaeth gael o hyd i gynor- thwywyr a phleidwyr yn eich niysg chwi, fel gweinidogion yr Efengyl. Ac hefyd, o ddau ddrwg dylasem oll ddewis y lleiaf. Ond pan yr ydym yn gwybod, ac hefyd yn gallu profi, íod Dirwestiaeth yn un o'r bendithion mwyaf a arweiniwyd i mewn i wreiddyn deddf-lyfr cymdeithas; pan y meddyliom am yr anfeidrol ddaioni ag sydd i ddeilliaw o honi yn ei gweithrediadau, drwy achub o lwybrau drygionus i ba rai y mae anngbymedroldeb yn arwain, ac hefyd, drwy argyhoeddi y meddwyn annedwydd, drygionus fyd yr hwn ydoedd wedi dwyn noethder a phrinder ar ei deulu; pan y mae Dirwestwr yn myfyrio ar effeithiau daẁìtus dysgeidiaeth a gyrhacddir drwy foddion yr athrawiaeth newj-dd hon; a phaa y tröa at j torfeydd o grefftwyr a chelfydá- ydwyr sydd yn parotoi at allor Duw ar y Sabbath, yn lle i'r tafarndai; O! dj na ydyw yr amser y mae yn teimlo argyhoeddiad fod Dirwest yn rhywbeth yn ychwaneg na rhyw egwyddor ag sydd fwy cyfiawn nac annghyfiawn. ■\Vesleyaid, meddaf, yn Brcsidcnt y Con- ferance, jn Weinidoçion, yn Flaenoriaid, ac yn Aelodau, y mae Dirwestiaeth wedi sychu dagreu y wraig hir-annedwydd, ac wedi rhoddi bara i biant ag oeddynt un- waith yn Uwyd a theneu gan newyu. Y mae egwyddor llwjr-ymwrthodiad wedi troi djuion o"r llwybrau sydd yn arwain i'r tafarndai, ao wedi eu djsgu i ehwilio am y cyfryw ag sydd yn arwain eu camrau i