Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR a'r HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL URDD Y RECHABIAID. ABDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl ; i beidio na rhoddi na chynyg y eyfryw i iteb arall; ac y'mhob modd i wrtlisefyll yr achosion a'r achlysuron o angliymedroldeb." CYF. V.] EBRILL, 1844. [Rhif. XLV. SYLWADAU AR 1 BREN. XX. 42. (ParJiad tèdalcn 22.) Yn|II. Sylwaf aryr Ymddygiad annheiîwng a nodir yma, sef gollwng ymaith yr un a nododd yr Arglwydd i'w ddyfetha. Pan y byddoni yn son am ollwng un ymaith, yr ydym yn naturiol yn tybio fod y cyfryw un wedi ei ddal a'i gaethiwo; ac felly yr ydym yn ystyried fod meddwdod yn bresenol. Y niae Gair Duw yn ei ddal ger brou dynion yn ei liw priodol ei hun> ac yn ei ddwyn i sefylifa fanteisiol i ddyn roddi barn arno. Y mae Gair Duw hefyd yn dwyn tystiolaeth am dano, ei fod yn un ofnadwy iawn, fel os cymer dyn ef yn arweinydd, efe a'i tywys ar hyd y cyfryw Iwybr oddi ar yr hwn ni etifedda deyrnas Dduw yn dragywydd; ac nid hyny yn unig, sef cau porth dedwyddweh o flaen dyn, ond y mae yn sicrhau iddo dra- gwyddol drueni, gan ei arwain i'r cyfryw sefyllfa arswydus yn yr hon y chwennycha farw, a marw a gilia oddi wrtho. Yn nesaf. Yr ydym i ddeall mai amlyg- iad helaeth o drugaredd yn yr Arglwydd ydyw ei fod wedi dwyn meddwdod i'r cyfryw rwymau ag y mae yn bresenol, trwy Ddirwest; oblegid fe welwyd meddw- dod yn llawer rhyddach yn Nghymru nag ydyw yn bresenol. Fe fu amser ar feddw- dod, ychydig flynyddau yn ol, pan yr oedd yn ymddangos mewn bri dirfawr, fel yr oedd yn bygwth dadsylfaenu bron bob sefydliad, a phob pcth braidd yn ymddang- os yn wywedig o'i flaen. Byddai y byw-' iolaethau goreu yn cael eu diwreiddio ganddo, a'r cysuron penaf yn cael eu chwalu ganddo. Byddai eglwys Dduw yn crynu o'i flaen; a mynych y diosgai hi o'i haddurniadau prydferth. Ië, yr oedd meddwdod wedi dyfod yn mlaen yn mhell i dir cysegredig iawn. Gweiwyd ef yn dirmygu dinasyddion Seion, yn mathru cysegr Duw, yn eistedd yn nheml Dduw, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth mwyaf cysegredig. Ië, byddai meddwdod yn gwisgo, ar wahanol amserau, wahanol wisgoedd, a hyny fel y byddaì yr achos yn gofyn: ar brydiau gwisgai wisgoedd galar; weithiau gwisgoedd dial; weithiau trwsiai ei liun at wasanaeth santaidd; a phryd arall cymerai wisg addas at lawenydd geni dyn i'r byd ; ac o herwydd hyn byddai eglwys Dduw mewn teimladau blin, ac yn gorfod ty wallt dagrau ddydd a nos fel afon, ac yn dyrchafu ei dwylaw at Dduw am einioes ei phlant. Yr oedd meddwdod yn gwiieyd ei ffordd yu fywiog trwy y ddaear, ac yn gadael ei effaith wenwynllyd yn mysg dynion, a hâd Gair Duw yn methu cael Ue i wreiddio yn y ddaear o herwydd tywallt y diodydd melldigedig arni, ac arwyddion genedigion byw yn Seion yn anaml iawn ; ac elo yr oedd anughydfod yn parhau rhwng teml Dduw a'r eilun yn wastadol, a'r elyniaeth yn ymddangos yn dragwyddoi aunghymodol rhwng y ddau hàd. O Fry- dain enwogi ai gwir i baganiaid Affrica,