Skip to main content

Y DIRWESTWR A'R HANESYDD RECHABAIDD. Î>AN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL URDD Y REOHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthodâ Gwlybyroedd Meddẅawl; i beidio na rhoddi na chynyg ycyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yrachosion a'r achlysuron o anghymedroldeb." CYF. V.] CHWEFROR, 1844. [Rhif. XLIII. SYLWADAU AR 1 BREN. XX. 42 : " O herwydd i ti óllwng ymaith o'th law y gwr a nodais i'w ddyfetha, dy einioes di fydd yn üe ei einioes ef, a'th bobl di yn lle ei bobl ef." brenin arno; megys y bydd y gwinllanwr doetharbrydiau yn tranrwy trwy ei win- llan, ac yn rhoddi nôd ar y prenau y bydd yn bwriadu eu dinystrio, yna mewn canlyn- iad yn gorchymyn i'w weision eutori i lawr. Yn awr, yr ydym i ddeall nad oes mewn gwirionedd ond un Gosodwr cyfraith, yr hwn y mae ganddo awdurdod resymol a chyfreithlon i alw ar bob dyn i ufyddhau i'w holl osodiadau, ac y mae ganddo ddigou o allu i amddiflyn uniondeb ei lywodraeth oruchel, a rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. Yr yd- ym i ddeall hefyd fod yr Arglwydd yn fy- nych yn ymddwyn tuag at y byd yn ol fel y byddo amgylchiadau ei eglwys,—weithiau mewn daioni, bryd arall mewn ceryddon a chospedigaethau. Ond y mae yreglwysyn. wrthddrych sylw Duw bob amser, ac wedi cael lle mawr yn y meddwl tragwyddol; îe, cyn gosod sylfaeni y ddaear, yr oedd yr Arglwydd Iesu yn Uawenychu yn ei ehyf- aneddle, a'i hyfrydwch gyda meibion dyn- ion, a hyny er mwyn adeiladu ei eglwys. Y mae yr Arglwydd wedi penderfynu ys- gwyd ymaith i dragwyddol warth bob gos- odiad sydd yn rhwystr i gynyrch sant- eiddrwydd; ac fel y mae pob pechod yn gwrthwynebu santeiddrwydd, felly y mae meddwdod yn gwrthwynebu santeiddrwydd, a phwy bynag a'i gwnelo sydd yn amlygu galyniaeth at Dduw, ae at ddybenion cref- vdd vn y byd. Ac fel y mae meddwdod Y mae geiriau ein testyn yn rhan o'r ym- ddyddan a fu rhwng prophwyd y r Arglwydd àg Ahab, brenin Israel, ac yn cynwys amlygiad o'r hyn a ddygwyddai i Ahab a'i bobl mewn canlyniad i'w waith yn gollwng ymaith Benhadad, brenin Syria. Dangosir i p yn y Beibl, ac mewn hen hanesydd- iaethau ereill, mai dwy genedl elynol i'w gilydd oedd y Syriaid a'r Hebreaid; ac hef- jd, y byddai yr Arglwydd yn amddiflyn Israel rhag cael eu dyfetha o flaen rhuthr- gyrchiadau ofnadwy y Syriaid, a hyny mewn modd amlwg iawn. Yr ydym yn deall hefyd mai dwy blaid yn dal anfodd- lonrwydd y naill i egwyddorion y llall yd- yw Dirwestwyr ac yfwyr y gymysgedd feddwol; ac y mae egwyddorion santaidd gair Duw yn amddiôyn y flaenaf ac yn condemnio yr olaf; ac o herwydd hyny tybiwyf nad anmhriodol ydyw llefaru ar Ddirwest oddi wrth y geiriau hyn. Heb fyned ar ol ystyr naturiol y geiriau, sylwaf Yn I. Fod meddwdod wedi ei nodi i'w ddyfetha. II. Yr ymddygiad annheilwng a nodir, sef gollwng ymaith yr un a nododd yr Arglwydd i'w ddyfetha. III. Y canlyniad o'i ollwng efymaith. I. Fodyr Arglwydd wedi nodi meddwdod ì'w ddyfetha. Wrth gymeryd y dull hwn o ymadroddi, yr ydym i ddeall fod yr Arglwydd yn ym- dwyn at y byd fel meddiannydd o hono a