Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWE A'lt HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL ÜRDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli Iwyr-ymwrthod â Gwlybyroedfl Meddtfawl; ibeidio na rhoddi na chynyg- y cyfryw i iteb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yraehosion a'r achlysuron o anghymedroldol." CYF. V.] IONAWR, 1844. [Rhif. XLII. ANEECHIAD DIRWESTOL AR DDECHRE BLWYDDYN. Gyfeillion Dirwestol.—Wele unflwydd- yn eto bron a diweddu, ablwyddyn newydd ar wawrio. Pan yr edrychom yn ol ar y misoedd a aethant heibio, a chanfod mor ddilwyddiant y bu yr achos Dirwestol, ni ganfyddwn fod cywilydd wyneb yn per- thynu i ni o herwydd ein diofalwch mawr, a'n cysgadrwydd gyda'r achos. Gwelwyd rhagorach gwedd ar y gymdeithas y blyn- yddoedd a aethant heibio nag a welwyd y flwyddyn hon: achosai fwy o gynhwrf yn ein hardaloedd, a mwy o ymddyddan yn ei chylch yn ddirgel a chyhoeddus. Bydd- wn yn barod i ofyn ar brydiau, a'n calonau wedi eu gorlenwi â hiraeth, Pa le mae yr aidd a welsom mewn cylchwyliau y blyn- yddoedd cyntaf yr oeddym yn pleidio Dir- west? Pan y byddai yr olygfa arnom mewn gorymdeithiau mor ddylanwadol nes cynhyrfu y teimladau caletaf i aberthu y dagrau dwys. Pa le mae y caniadau per- seiniol a glywwyd yn dyrchafu o galonau gwresogawl y Dirwestwyr, nes y byddai pêr gantorion y goedwig yn barod i roddi eu telynau ar frigau y coed, dan deimlad o'u hanfedrusrwydd, pan fyddai cantorion ein gorymdeithiau yn myned heibio ? Och! a raid ateb, y mae y dylanwad i raddau wedi darfod, ac y mae y caniadau gwresog- awl wedi rhewi ar y gwefusau a fuont un- waith yn eu datganu. Ond o'r ochr arall, y mae lles mawr wedi ei wneyd mewn amrywiol fanau yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Llawer meddwyn wedi ei sobri; llawer gwraig wedi derbyn cysur; a llawer plentyn tylawd wedi ei wisgo, a cliael bod yn gyfranog o foddion addysg. Hefyd, y mae llawer meddwyn diwygiedig wedi cael golwg arno ei hun fel pechadur, nes rhoddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl yn ol ei air. Cafwyd gwrthwynebiadau i'r gymdeith- as y flwyddynddiweddafme-wnllawerman. Pan y byddai Dirwest mewn ambell i ardal fel gardd flodau, beraidd ei harogl, ym- ddangosai sarph dorchoc fawr yn nghan- ol y blodau, nes perí cynhwrf yn mhlith y Dirwestwyr; ac wrth geisio lladd y saeph yn dyfetha y blodau hefyd. Bryd arall, pan y byddai y gwersyll mewn heddwch, a phawb yn dylyn y golofn yn ddirwgnach, codai rhyw Epicuriaid hunanol a thrahaus, gan lefain am newydd-deb yn yr ymrwym- iad, nes peri i'r gwersyll ymranu ncymgecru â'u gilydd, er gwawd a llawenydd gelynion yr achos. Ond, Er cymaint o rwystrau sj^dd iddi, Myn'd rhagddí yn gyflym a wna, I sychu llifeiriol ffrwd medd'dod, A gwella ein tiroedd o'u pla, Mae ncrthoedd y nefoedd o'i hochr, Grym cariad tragwyddol yr Ion; Symudir pob rhwystr ì'w rhediad Gau fedrus fyddinoedd yr O'n. Ni a sylwwn ar rai pethau ag sydd yn galw am ein hymdrech barhaus eto ar dde- chre blwyddyn newvdd.