Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ABDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddtfawl; ibehìio na rhoddi na chynyg y cyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achlysuron o anghymedroldeb.' CYF. IV.] RHAGFYR, 1843. [Rhif. XLI. SYLW AR HEB, XII. 4. (Parhad o tudal 168.) Yn 4. Y mae y pechod o feddwdod yn ei effeithiau dinystriol yn dwyn agos berthynas á'r cyflawnydd o hono. Yn gyntaf. Y mae yn ei ddarostwng islaẃ yr anifail afresymol. Tybiwn yr addefir yn gyffredinol mai rheswm ydyw yr unig beth a wahaniaetha ac a ardderchoga y bôd o ddyn ragor anifeiliaid y maes; o herwydd nis gellir (i'm tyb i) ganfod dim ynddo fel bôd anifeilaidd yn unig yn rhagori dim ar ereill o'r un bodolaeth, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb: Oblegid gall y llew rhuad- wy, yr hwn a darana â'i lais nes crynu o'r goedwig, yn nghyda'r march gweryrgar ymffrostio mewn rawy o gryfder, nerth, a bywiogrwydd nâ dyn. Gall yr eryr mawr ymfalchio ei fod â'i adenydd yn gallu dringo a chwareu yn entrychion y uwyfre, pan y mae dyn heb allu symud llathen oddi ar gronen ei fam yn ei ddull ef. Gall lla- wer o greaduriaid ereill ymffrostio mewn mwy o gywreinrwydd—ereill mewn mwyo gyfiymdra, ac ereiÚ mewn gwelediad mwy craffus a threiddiol, &c, nag a fedd dyn. Gwelwn ynte pe bòd anifeilaidd fuasai dyn, heb feddu rheswm nac amgyffrediad, y bu- asai pob creadur, neu o leiaf y buasai yr holl ragoriaethau a nodasom, pe wedi eu casglu a'u crynoi i'r un creadur, yn ei wneyd yn ddeg rhagorach, fel bôd anifeil- aidd, nâ dyn. Gan hyny, yr unig beth a wna ddyn yn arglwydd yr holl greadigaeth anifeilaidd ydyw rheswm: ond y mae meddwdod yn alltudio rheswm, ac yn dryllio canolfur y gwahaniaeth, fel ag y mae dyn dan ei ddy- lanwad yn amddifad o reswm, a thrwy hyny islaw yr anifail a ddyfethir. Neu y mae ystyrion ereill, y rhai a ddangosant yn eglur briodoldeb y mater dan sylw. Amlwg yw fod y deddfau â pha rai y Uyw- odraethir bywiolion yn wahanol i'w gilydd. Y mae y dosbarth anifeilaidd afresymol yn cael eu llywyddu gan reddf {instinct), neu anian ag sydd yn blanedig ynddynt fel cre- aduriaid. Ond dyn a arweinir gan ysgog- iadau ei feddwl, pa rai ydynt gynhyrfedig gan ei reswm. Yn awr, y mae meddwdod yn beth croes i natur neu anian yr anifail, ac yr un modd yn wrthwyneb i reswm dyn; a phan y mae ef yn cyflawni yr ysgelerder hwnw, y mae yn tori y ddeddf anifeilaidd sydd yn ei gyfansoddiad, ac yn troseddu deddf y meddwl, pan y mae y gyntaf yn unig, yr hon, i'm tyb i, yw y wanaf, ýn at- tal yr anifail rhag meddwi. Drwy hyn a'r" cyffelyb y mae yn darostwng dyn islaw yr anifail. Os rheswm yw y perl awnaddys- gleirdeb ac ardderchogrwydd dyn yn anhef- elydd, eto, rhoddi chwant ar yr orsedd agy dylai rheswm fod arni sydd yn ei ddaros- twng yn is nâ'r anifail. Os y bôd o ddyn yw coron y bydysawd—os crewyd ef o ran ffurf ei enaid ar ddelw Duw—os banodd o deulu ìnor ogoneddus—os derbyniodd etif- eddiaeth mor oludog ac eang a theríÿnau y