Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ABDYSTIAI) CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn yrarwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrtliod â Gwlybyroedd Meddwawl; ibeidiona rhoddi na chynyg y cyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o anghymedroldeb." [CYF. IV. GORPHENHAF, 1843. Rhif. XXXVI.] DIRWEST A RECHABIAETH A LWYDDANT. Ffatth ydyw nad ydyw yr Ysgryiliyrau yn ei gwrthwynebu, na rhcswm yn ei gwrth- wynebu; oblegid dyma yw yr olwynion ag sydd yn cludo y cymdeithasau hyn yn eu gyrfa lwyddiaunus. Pe byddai i Iywodr- aeth wladol trwy rym gorfodaeth osod cyf- raith i gadioyno gweithrediadau daionus y Cymdeithasau hyn, byddai mor aneffeithiol i ddiddymu egwyddorion y cymdeithasau, ag ydoedd ymgais y brenin ffol hwnw i gadwyno tònau y môr rhag iddynt der- fysgu. Pe byddai holl filwyr Prydain trwy orchymyn Seneddol, yn ymosod ar yr eg- wyddorion hyn, gan. geisio eu hanfon o'r byd, gwelid yr egwyddorion yn dawnsio ar fìn y cleddyf, ac yn gwenu yn fuddugol- iaethus yn wynebau eu gwrthwynebwyr. Mae yr egwyddorion o Dduw, ac y mae Hollalluogrwydd y Duwdod fel mur cadarn rhyngddynt à chynddaredd dynion. Nid ydwyf yn sicrhau nas gall y cymdeithasau hyn leihau mewn nifer, brwdfrydedd, a theimlad, a dirywio yn fawr trwy farweidd- dra a diffyg ymdrech. Cawn hyn yn han- es yr eglwys Gristionogol y canrifoedd cyntaf wedi marw yr apostolion, nes y bu iddynt, trwy eu hoerfelgarwch a'u tradd- odiadau, o'r diwedd esgor ar Babyddiaeth. Felly hefyd fe all y cymdeithasau hyn ddi- rywio yn fawr, ond dywedaf yn hyf y par- hant fel blodau heirdd ar faes yr Ysgryth- yrau hyd ddiwedd amser. Mr. Gol.— Y mae addasrwydd yr eg- wyddorion sydd yn gynwysedìg yn ymrwym- iad y cymdeithasau hyn, ac agwedd bresenol y byd, yn nghyda'u priodoldeb yn eu perthynas â dynfel creadur moe&ol, yn brofion eglur i mi y llicyddant. Y rhan gyntaf yn ymrwymiad y cym- deithasau hyn ydyw, " Yr ydwyf yn ym- rwymo yn wirfoddol," &c. Dyma goron y cymdeithasau hyn—dyma eu rhagoroldeb a'u hardderchogrwydd. Pan ehedodd y golomen hon, sef yr egwyddor wirfoddol, o fynwes Ior i'n byd ni rai canrifoedd yn ol, pan oedd Pabyddiaeth, ac uchel Eglwys- iaeth yn teyrnasu, ni chafodd le i wadn ei throed sangu arno, a bu gorfod iddi fyned yn ol. Ond pan wawriodd pelydrau dys- glaerwych rhyddid gwladol a chrefyddol ar ororau ein gwlad, fe gafodd y golomen geinwych hon le addas i sangu arno, ac y mae hi wedi aros gyda ni hyd heddyw, er cymaint o ymladd sydd am ei bywyd, ac ymdreeh i'w hanfon o'r byd. O egwyddor fawreddog! Aros yn ein gwlad hyd nes y byddo Brenin Seion yn teyrnasu yn mhob calon dros wyneb y ddaear. Ar ysgwydd- au cedyrn yr egwyddor wirfoddol y car- iwyd y diwygiad Protestanaidd trwy Lu- ther dros gyfandir Ewrop. Yr egwyddor hon a wnaeth y bachgen a anwyd yn Eis- leben Babaidd yn Uew Lutheraidd i wrth- wynebu traddodiadau a chyfeiliornadau damniol y grefydd hòno. Yr egwyddor hon ydoedd yr attyniad nerthol ag ydoedd