Skip to main content

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. AtiiASTlAÜ CYMANFA DIRWEST liWYNEDD, ' Yrwyfyu ymrwymo yn wirfoddol i Iwyr-ymwrtliod â Gwlybwr Medd.vol ; i bei.lio ua rhoddi tia r-hynyg y cyfryw 1 ueb aiuil j ac yn mliob modd i wrtiisefyfl yr achosion a'r achlysuron o Annghy- medroideb" CYF. III.] TACHWEDD, 1842. [RHIF. XXVIII. PREGETH AR RHUF. IX. 3, (PARHAD O TUDAL. 136.) 2. Yr oedd Paul yn teimlo wrth weled ei genedl yn gwrthod Cristionogaeth ; feily y dyìai pob Dirwestwr deimlo dros y rhai sydd yn gwrthod Dirwést, a hyny oblegid y pethau caulynol;— (1.) O herwydd ei bod yn addefiad gyff- redinol fod eisiau diwygiad ; âphwy bynag y siaradem, addefai pawb fod eisiau diwyg- iad, hyd yn nod y meddwyn eu hunain. Yr oedd cwyn gyífredinol yn y wlad oblegid eu meddwdod. Yn awr, wrth weled llawer yn gwrthod y diwygiad, nis gall yr effro lai na theindo. Mae yn debyg fod rhyw beth o'r natur hyn yn gwasgu ar ei feddwl; sef, meddwl fod y genedl wedi bod yn dymuno a disgwyl llawer am y Messiah, yn gweddio ac yn ocheneidio íiawer am hyfryd ddyddiau yr efengyl; ac wrth weled ei genedl yn gwrthod Crist a Christionog- aeth, wedi disgwyl, ocheneidio, a gweddio cymaint am danynt, yr oedd yr apostol yn toddi mewn galair a gofid. Yn awr, galwaf íinau ar eglwys Dduw yn mhob man, er mwyn eich disgwyliadau, eich gweddiau, a'ch ocheneidiau, "derbyniwch a choíìeid- iwch Ddirwest; oblegid mae y very peth ag oeddych yn ei geisio. Mae delw gweddiau Seion i'w gweled ar Ddirwest; Seion na wrthod dy blentyn dy hun, oud clyw ei gri wrth dy ddrws am fagwraeth. Os bydd Dirwest farw o newyn, bydd Seion yn euog o newynu ei phlentyn ei hun ! O î Seion, teimla dros dy blentyn sydd yn wylo ar y tnaes. Eglwys Dduw, pa hyd y caiff plentyn yr Hebreaid fod ar fronau merched yr Aifft? (2.) Mae gweled rhai yn gwrthod Dir- west, wedi i'w digonolrwydd gyrhaedd, yr amcan gael ei broíì, yn galw am deimlad dau-ddyblyg. Mae Dirwest wedi profi ei hun yn rhinweddol isobri y byd ; mae wedi sobri canoedd a miloedd, a sobr fyddant tra yn aros wrth y penderfyniad a wnaeth- ant. Nid yw dynion yn gyfft edin yn gwel- ed unrhy w draul yn ormod os bydd yn cyr- haedd amcan mwy; ac nid oes yr un da yn rhy ddryd i'w brynu, pa faint bynag a gostia. Mae Seion wedi" myned i gryn draul dros Ddirwest mewn llawer man ; ond y mae yr hamdden a gafodd i sychu ei dagrau, yn ddigon o ad-daiiad iddi. Onidydyw Dir- west wedi cau y clwyfau a fu yn agored am flynyddau, sychu y dagrau fu yn rhedeg liw nos ; wedi symud y penwyni oedd yn fantell dros wersyll Duw, ac wedi dwyn adfywiad i ardd yr Arglwydd ? Gwir mai yr Ysbryd Glàn yw awdwr adfywiad, ac mai îlaw Duw sydd yn achub ; ond nid arfeddw- on a diotwyr mae yr Ysbryd Glân yn cael ei dywalit, ac nid pan mae Seion yn cysgu gyda ei heilunod mae llaw Duw yn achub. I'm tyb i, nid yw gweddio am iachawdwr- iaeth y meddwyn, heb bleidio Dirwest, ddim yn amgen na themtio yr Arglwydd. (3.) Mae y dull ag y mae llawer yn gwrthod Dirwest, yn galw am deimlad dros- tynt, sef mewn modd bradychus. Ni add- ] efant eu bod hwy yn erbyn Dirwest, ond dywedant mai peth da yw Dirwest i lawer, a'u bod hwy yn caru ei llwyddiant. Mae yn debyg fod y darllenydd fel yr ysgrifen- ydd, yn glust dyst o wirioneddau y peth hwn. Yn awr, mewn ffordd o ymresymu, mae yn rhaid fod Dirwest yn ddrwg neu yn dda, ac fel y cyfryw y mae i'w chefnogi neu ei hanghefhogi. Nis gall peth mor