Skip to main content

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD, ' Vr wyf yn ymrwymo yn wirfuddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Medd*ol; i beiilio na rhoddi ua cliynyg y nyfryw 1 ueb aratl; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Aniighy- medroideb." CYF. III.] HYDREF, 1542. [RHIR XXVII. TEILWNG SYLWADAU. YFED diodydd meddwawl sydd nid yn unig yn ddinystr i filoedd o deuìuoedd, ond hefyd yn golled wladol o'r niwyaf; a cheid fod ymattal rhag y cyfryw yn lles gwladol tuhwnt i hob amgyffred. Yr hwn sydd yn ymattal oddi wrth y diodydd meddwol, ac yn anuog ereill i wneuthur felly, sydd yn llawer rhagorach gwladgar- wr na'r bloeddiwr am ryddid, ac yn gwario mewn gloddest. Y golled wladol oddi wrth annghymedr- oldeb a elhr ei egluro trwy ddangos y cyf- rif o'r arian a gânt eu gwario am beth ag sydd yn gwneyd oad ychydig neu ddim da- ioni—y grawn a ddistrywîr yn flynyddol i wneyd diodydd meddwol,—y dlnystr ar fywydau a meddiannau a wneir trwy fedd- wdod,—neu trwy ddangos camgymhwysiad arian, llafurwaith cywreinrwydd, ac ad- noddau y wlad, mewn cysylìtiad ag yf'ed diodydd meddwawl. Gadewch i ni yn gyntaf fwrw golwg ar ddogn a thraul y diodydd meddwawl a yfir yn y deyrnas gyfunol. Wele yn canlyn y cyfrifiad a wnaethym ychydig amser yn ol :—Y dogn o wirod cyflawn brawf, (full proof,) a yfir yn flynyddol, ac ar ba un y telir cyllid, yw saith miliwn ar hugain o alwyni. Os chwanegir at hyn y dcgn mawr a wneir trwy waethygiad neu gy- mysgiad dwfr, distylliad atmghyfreithlon, a gwirod rhedeg, rueddylir nad yw yr hyn a yfir yn flynyddol, yn y deyrnas hon, yn llai na deugain miliwn o alwyni; yr hyn, yn ol deg swllt y galwyn, sydd yn werth ugain miliwn o bunnau yn y flwyddyn. Oddi wrth yr awdurdod oreu, cyfrifid yn ddiweddar fod y diodydd brag a yfir yn flynyddol yn yr amherodraeth Brydeinaidd yn 450,000,000 o alwyni, yr hyn, yn ol un swllt y galwyn, sydd yn ddwy fîliwn ar hugain o bunnau ; a bod y gwin a ddygir i'r deyrnas hon, neu a wneir yma dan yr esgus o win tramor, yn ddeng miliwn o alwyni, ar yr hwn y gwastreffir yn flyn- yddol tuag wyth miliwn o bunnau. Felly ymddengys ein bod yn talu hanner can miliwn o bunnau yn flynyddol am ddiod frag, gwin, a gwirod; ac yn yfed cymaint o honynt ag a wnelai fôr tair troedfedd o ddyfnder, triugain troedfedd o led, ac yn bedair a phedwar ugain milldir o hyd ! Ond wrth wneuthur cyfrifiad o'r draul.gyd- fynedol âg annghymedroldeb, dylid ystyr- ied gwerth yr amser a dreulir wrth yfed,— colled a distryw meddiannau ar dir ac ar fôr,—cost cyfreithiau a biliau doctoriaid, a achosir trwy feddwdod,—yn nghyda'r arian a dreulir ar nawdd-dai, gweith-dai, carcharau, a lluest-dai, &c., mewn canlyn- iad i oferedd y bobl, nid ydym yn meddwl yr awn dros ben y gwirionedd os cyfrifwn y golled yn gymaint arall, neu os gosodwn gost annghymedroldeb y wlad yn gan mil- iwn o bunnau yn flynyddol. Yn y flwyddyn a orphenodd ar y 5ed o Ionawr, 1841, yr oedd yr haidd a wastraff- wyd i wneyd diodydd meddwawl yn 5,360,000 o grynogau, neu yn 48,880,000 pwysel, neu 21,144,000,000 o^bwysi. Onid yw yn golled gwladol i ddistrywio ymborth da i wneyd diodydd meddwawl ? A chan- iatau í'od y drydedd ran o hono yn eisin, ac yn myned ar goll wrth ei barotoi, yn ol pedwar pwys y pen, rhoddai cymaint a hyn o haidd ymborth i saith miliwn o bobl! Y bobl ydynt yn newynu o eisiau bara, ac yr ydym ninnau yn taflu yr ŷd i'r gerwyn ferweddu i'w wneyd yn wenwyn gwlybyrawg I Mewn cyfeiriad i'r draul, fe allai y dy- wedir nad yw y cyfrif blaenorol ond dang*