Skip to main content

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYWF.DD, Yr wyf yn yrarwymn yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod S Gwlybwr Meddwo! ; i beidio na rhoddi na ohynyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysnron o Annghy- medroldeb." CYF. III.] GORPHENHAF, 1842. fRHIF. XXIV. MODRWY AUR FY MAM. ( Efelychiad.) YMAE genyfun o'r gwyr hynawsaf: saer wrth ei gelfyddyd; a'n diadell fechan a feddianna un o'r tadau ffyddlonaf yn y wlad. Yr oeddwn yn cael fy nghyfrif yn un o'r merched mwyaf llwyddiannus yn y plwyf, pan y gwnaeth G------T------ fi yn wraig iddo: mi feddyliais hyny fy hun. Dydd ein priodas. ( ac yr oedd yn un hapus, ) nid oedd ond siampl ddisylw o'r dyddiau dedwydd a dirwystredig gy- tundeb a ganiatawyd i ni i'w mwynhau yn nghyd, am yr yspaid o chwe' blynedd. Ér, am y tair blynedd diweddaf, o'm bywyd, yr ym wedi bod mor ddedwydd a phan yn y dechreuad: eto y mae yn gwneydi'm calon suddo wrth feddwl am y dyddiau hirion, a'r nosweithau tywell a ddaeth cydrhyngddynt; o herwydd dwy flynedd o'n hywyd oedd yn llawn o resyndod. Cofio yr wyf yn dda am y glasiad cyntaf o wirod a yfodd fy mhriod erioed. Yr oedd wedi bod yn yr Ystordy yn prynu angenrheidiau bywyd i'w deulu : yr oedd tair ceiniog yn dyfod yn ol iddo ef mewn cyfnewid; ond, yn anffodus, y Deacon, yr hwn a gadwai'r Ystordy, nid oedd ganddo ond arian yn y blwch; ond trwy ei bod yn fore rhewllyd, ac oer, y Deacon a'i per- swadiodd i gymeryd ei newid mewn Rum, canys yr oeddynt yn gymwys bris glasiad o hono; ac yntau a gydsyniodd, a daeth adref mewn yspryd rhyfeddol o uchel, a dywedodd wrthyf ei fod yn bwriadu i mi a'r plant gael ein ddilladu yn well; a thrwy fod Barton, ei gymydog, yn sôn am werthu ei geffyl a'i gerbyd, meddyliodd eu prynu hwy i'Il dau: a phan ddywedaÌ6 wrtho, " George, yr ým wedi ein dilladu o'r goreu i atteb i'n sefyllfa, ac yr wyf yn gobeithio na feddyliwch am brynu y rhai hyn hyd nes y talwn yr arian ymaith i Squire:" fe roddodd i mi olygiad chwyrn a gair chwerw. Ni annghofiaf y dydd hwnw, canys yr oeddynt y rhai cyntaf a roddodd i mi erioed. Pan y gwelodd fi yn tywallt dagrau, ac yn dal fy arffedog ar fy wyneb, efe a ddywedodd fod yn ddrwg ganddo, ac a ddaeth attaf, ac a'm cusanodd, a'r pryd hyny y daethym i wybod ei fod wedi bod yn yfed, yr hyn a'm gofidiodd i'r byw. Mewn ychydig ainser wedi hyn, pan yr oeddwn'yn golchi y llestri ar ol boreubryd, clywn Robert bach, yr hwn oedd ond pum mlwydd oed, yn llefain yn chwerw, ac AYrth fyned i edrych yr achos, mi a'i can- fyddais yn dyfod tuag ataf, a'i wyneb yn daenedig gan waed. Efe a ddywedodd fod ei dad wedi ei gym- eryd ar ei lin, ac yn chware ag ef, ond efe a'i tarawodd ar ei wyneb, am dywedyd ( pan y cusanodd ei dad ef,) " Nhad anwyl, yr ydych yn arogli yn debyg iawn i'r hen ìsaac y fiddler." Yr oedd fy mhriod yn hynod o'r croes tuag attom oll trwy gydol y dydd ; ond bore dranoeth, er na ddywed- odd ond ychydig, yr oedd arno gywilydd, ac ymostyngodd, ac a aeth at ei orchwyl yn hynod o'r diwyd, ac yr oedd yn neill- duol o dyner o Robert bach. Mi a weddi- ais yn wastadol trosto, ar i Dduw weled yn dda dywys ei galon i uniondeb; a thros wýthnos wedi myned heibio heb gyfarfod â'r fath amgylchiad, mi a gysurais fy hun na wnai ef byth wneyd y fath beth eto.