Skip to main content

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMAttFA DIRWEST GWYHEDD. Yr wyf yo ymrwymo yn wjrfoddol i lwyr-ymwrthod ft Gwlybwr Meddtfol ; 1 beiiìio na rhoddi na fchyuyg y ryf. yw i ueb aiall; uc yu ru&ob modd i wrthsefyìl yr achosioD a'r acUlysurou o Auughy- ruedroldeb." CYF. III.] MAWRTH, 1842. fRHIF. XX. SIAMPL DEILWNG I'W DILYN HYD DDIWEDD AMSER, GAN HOLL IEUENCTYD Y BYD. " A Danid a roddes ei fryd nad ymhal- ogai efe trwy ran o fwyd y bi'enin, na thrwy y gwin a yfai efe; am hyny efe a ddymunodd ar y pen-ystajellydd na byddai rhaid iddo ymhalogi," Dan. i, 8. Y, R oedd Daniel yn ddyn duwiol, yn dòyn duwiol iawn, yn un o'r rliai duwiolaf a fu yn y byd hwii erioed. Yr oedd efe yn brop^.wyd ardderchog i Dduw, yn ym- drechwr mawr mewn gweddiau gyda Duw, Dan. tì 18. Yr oedd efe yn ffyddlawn i Dduw a'i grefydd bob amser, yn mhob inan, ac yn mhob amgylchiad, Oan. vi. ■4, 10—18. Yr oedd ei waith ef yn peidio ymhalogi trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe, yn dangos ei dduwioldeb, tynerwch ei gydwybod, ei barch i osodiadau y ddeddf seremomol, a'i fod ef yn ystyried amgylchiadau tralloded- ig ei genedl yn y eaethiwed Babilonaidd. Yr oedd llawer o bethau yn waharddedig gan Dduw i Israel yn y ddeddf seremon'iol, ag oedd y cenhedloedd yn eu bwyta ac yn eu hyfed ; ac yr oedd hyn yn un o'r pethau oedd yn gosod gwahaniaeth rhyngddynt hwy â phob cenedl dan y nefoedd, Lef. xi. 45, 47. Deut. xxxii. 38. Ac er fod Daniel yn Babilon, yn nihell o'i wlad, yn mhell oddi wrth y deml, ac yn mhell oddi wrth Jerusalem, fe adawodd y gwahaniaeth hwn rhyngddo ef â'r Babiloniaid, a thrwy hyny, fe ddangosodd ei fawr barch i osod- iadau ei Dduw. Dangosodd hefyd trwy beidio ymhalogi trwy ran o fwyd y brecin, na thrwy y gwin a yfai efe, nad oedd y fath íwyd maethus yn addas iddo ef, wrth y6tyried amgyìchiadau trallodedig ei gen- edl wrth afonydd Babilon, a'u telynau yn grogedig ar yr helyg, a'u gelynion yn eu gwawdio, Salm cxxxvii. 2—4. Y mae yn debyg ei fod ef yn barotach i ganu ei alar- nad gyda Jeremia, nac i fyw yn foethusyn Babilon, gan ddywedyd, " Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan ? pa fodd y mae y lîosog y'mhlith y cenhedl- oedd megys yn weddw ? pa fodd y mae ty- wysoges y taleithiau dan deyrnged, pa fodd y dyg yr Arglwydd gwmwl ar ferch Sion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint? Pa fodd v tywyllodd yr aur, y newidiodd yr aur eoeth da, y taflwyd cerig y cysegr yn mhen pob heol ? Y mae ffyrdd S'ion yn galaru o eis- iau rhai yn dyfod i'r wyl arbenig." Gellir cymhwyso yr alarnad uchod i raddau mawr at amgylchiadau yr eglwys yn y dyddiau hyn yn mhlith yr amrywiol enwadau cre- fyddol mewn llawer ardal. Y mae y ddi- nas ami ei phobl mewn amryw fanau, yn eistedd ei hunan ; mae cwmwl tew o gudd- iad wyneb Duw ar ferch S'ion mewn llawer o ardaioedd ; y mae ffyrdd S'ion yn galaru o eisiau i rai eto ddyfod i'w teithio tua mynydd saataidd S'íon ; ymaerhai ogerig y cysegr wedi eu taflu yn mbell oddi wrth y cysegr, ac wedi eu hanghofio gan braidd bawb ond Duw ei hunan. O ! bregethwyr, henuriaid eglwysig, crefyddwyr o bob enwad yn gyffredinol, gofynaf yn ostyng- edig, A fedrwch chwi yfed gwin dan ganu, ac ymlawenhau mewn mod gref, ac eglwys Dduw yn y fath amgylchiad ? Na, na, mi a obeithiaf bethau gwell am danoeh, mi a obeithiaf eieh bod y rhan fwyaf o honoch, os nad ydych oll, yn adnabod eich agwedd yn y dyddiau hyn, a'ch bod yn barotach i alaru dros yr eglwys yn ei chaethiwed, nac i lawenhau mewn cyfeddach gyda y diod-