Skip to main content

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ABDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD, Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthot! â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na fihynyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Anughy- medroldeb." CYF. III.] CHWEFROR, 1842. [RHIF. XIX. YR YMRWYMIAD TOREDIG. (The Brohen Pledge.) X AN yr edrychwn ar yr ychydig flyn- yddau yn ol, ac y trown ein llygaid at ryw dalaeth ag y mae y Gymdeithas Ddirwest- ol wedi ei sefydlu, cawn yno lawer a fuont unwaith ar ein list ni, ac wedi bod yn ar- feryd eu dylanwad er Uedaenu ein hachos, pa rai yn awr, am ryw resymau, neu heb yr un rheswm, ydynt wedi tynu eu henw- au, anmharchu eu hunain, a digaloni cyf- eillion ag sydd yn barhaus yn glynu wrth- ym. Y fath ddynion a gynhyrfant ein tosturi diffuant; ac yn lle eu cyhuddo, gwnawn, mewn ysbryd tirion, ddadleu gyda hwj% mewn gobaith y bydd i ychydig o adlewyrchiadau, ac ystyriaethau meddyliol, a'u hannog i barchn eu hunain, yn gystal a pharchu yr hyn sydd iawn, i ail-gymeryd eu sefyllfa flaenorol, ac i ymddwyn yn fwy teilwng i'r enw a'r natur y maent yn ddal, Pan ddeuir yn aelodau, mae yn rhaid i hyny gymeryd lle, casglem, o ryw radd o wir moesol, y rhai o'r blaen, oeddynt yn edrych arno yn ddibrisiol. Ni chymerodd y fath ymddygiad penderfynol le heb gyd- syniad barn a chydwybod y personau. Yr arferiadau a'r rhagfarnau, y rhai oeddynt wedi bod yn gwreiddio ynddynt am flyn- yddau, nis rhoisant i fynu i attaliadau ar dir gwan. Yr oedd rhyw ddrwg mawr i gael ei droi heibio, rhyw ddaioni mawr i'w gyrhaedd, cyn i'w alluoedd moesol a deallt- wriaethoi ymostwng i chwyldroad mor wreiddiol. Y mae ganddom hawl i farnu y cwbl yma, gan ei fod yn unol Sg eg- wyddor ein natur gyffredin. Efallai fod anogiad ammodol, neu ddylanwad esiamp], wedi cario y person, heb feddwl nag ystyr- ied, hyd at y pwynt ymrwymiadol, ond y mae yr engreifftiau hyn yn anghyffredin. Yn gyffredin yn mhlith Seotchmen, y maent hwy wedi edrych oddeutu i'r cwest- iwn, cymharu canlyniadau tebygol, ystyr- ied yn ddifrifol beth yw dyledswydd, cyn ymwadu ag alcohol, ac arferyd llwyr-ym- attaliad. Ar ol i ni wneyd trosiad fel hyn, a dechreu dull newydd o ymddwyn, medd- yliem mai nid peth bychan a'n rhwystra. Dylai yr un gyfran o feddwl a rhagfeddwl gael ei arferyd, cyn i'r hen bethau a aeth- ant heibio gael eu hail alw, a'r pethau new- ydd eu cymeryd ymaith. Yr un gyfran o egwyddor foesol ag a arferwyd i ymwrth- od â diodydd cedyrn, a ddylesid ei galw i weithrediad, cyn y gwnaid ymyraeth â hwy drachefn ; neu, mewn geiriau eraill, dylasai y dyn roddi cystal rheswm am roddi ei Iwyr-ymattaliad heibio, ^g oedd gan- ddo pan ddechreuodd. Yn awr, rhoddwn hyn at gydwybod pob un a dynodd yn ol, i law pa un y digwydda y llyfr hwn fyned, os digwyddodd i ryw weithrediad tebyg i hyn yma redeg drwy ei feddwl, pan y cym- erodd y gwydrad a ddarfu ei drosglwyddo o revenge. Diwygiad moesol i eiddo halog- rwydd moesol, os darfu iddo gj'dsynio a'i reswm mewm un modd, neu feddwl am ei gyfrifoledd, neu edrych i mewn i'w Feibl, neu chwilio am gyfarwyddyd oddi wrth ei Dduw. Bydded i atebiad gonest gael ei roddi, ac efe a ateb, " Naddo, fe wawdiwyd ychydig arnaf gan ryw gyfaill blasus a meddw; teimlais fy hun yn rhyfedd ar ryw amser neillduol pan oedd arnaf chwant bwyd; fe'm temtiwyd gan fy hen flys, ac ail-adroddiad o'r hen gelwydd, y byddai i lasiad neu ddau fy ngwneyd yn gyfforddus^ achosi i mi anghofio fy nhylodi, a rhoddi heibio feddwl am fy nhrueni. Gan hyny, mi a ufuddheais; ond yr oedd rheswm a chydwybod yn cysgu ar hyd yr holl amser