Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD. « y,. Wyf yn ymrwytno yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Medd»vol ; i beidio na rhoddi na ihynyg y cỳfryw i ueb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r aclilysuron o Annghy- ìuedroldeb." CYF. III.] IONAWR, 1842. [RHIF. XVTIL AT BSIEWESTWYB GYMS&U. JíiNAID a bywyd pob achos, boed dda boed ddrwg, yw ei arddangos o flaen y byd, fel y gallo y byd ei farnu, i'w dderbyn neu ei wrthod—ei gondemnio, neu ei gyfiawnb.au. Ac nid oes dim a ddyfeisiwyd gan yr hil ddynol wedi bod mor ddefhyddiol tuag at arddangos egwyddorion (boed hwy o'r natur y b'ont) ger gwydd y byd yn gyffredinol, nâ'r Argraŷwasg. Mae Cyfeillacn, Ymddyddanion, Areithiau, a Chymdeithasau, yn fuddiol iawn tuag at tàgu egwyddorion mewn cylch bychan, ond i'w lledaenu trwy wlad, nid oes dim i'w gystadlu â Chyhoeddiad drwy yr Argraffwasg,—boed. hwn fÿchan neu fawr,—o bris ceiniog, dwy, neu dair. Treiddia i gonglau, ystwffia i gelloedd nas gall yr areithiwr mwyaf dawnus eu cyrhaedd. Gall yr areithiwr hyawdl dreulio eì nerth yn areithio ar egwyddorion pethau i gynulleidfa fawr mewn ardal, a llawer o'r ardal yn gorfod neu yn dewis bi>d gai-tref; ond y Cyhoeddiad bach drwy yr Argraffwasg a all gyraedd y claf, yr hdbulus, y difater, a'r diofal; a thrwy i'r llygaid ddyfod â phethau o flaen ei feddwl, na chlywodd ei glust, ac na ddyehymygodd ei galon erioed am danynt. Beth roddes nerth ac efleithioldeb i feddyliau dyngarol, ac areithiau efengylaidd Charìes a'i gyfeilüon yn Llundain, pan yn cychwyn y Gym- deithas Feiblaidd^ onid yr Argraffwasg? Beth daniodd sêl duwioìion Prydain, o bob enwad, ac o bob gradd, i anfon Cenhadau hedd i barthau pellenig y byd ; onid drwy gyfrwng yr Argrafíwasg ? Beth dreiddia i'r bwthyn yn gystal a'r palas. i argyhoddi yr anffỳddiog— i ddwyn adref yr afradlon—i droi y drygionus o gyfeiliorni ei ffbrdd—i ddy- ddanu y torgalonus—ac i gynal y gweiniaid ; onid Cymdeithasau y Traeth- odau drwy gyfrwng yr Argraffwasg? Aiareithiau Ẅilberforce ac ereill o'i gyfeillion a'i olynyddion dyngarol yn unig a effeithiodd ar y wlad i gyfodi fel un gwr i aníbn eirchion nes syfrdanu y Llywodraeth, fel y bu raid iddynt roddi dyben ar y gaeth fasnach ? nage, offerynoldeb y Wasg a fu y modd- ion mwyaf effeithiol i g^ffroi y wlad yn erbyn y fasnach uffernol hòno. Nid oes dim cyffelyb i'r Wasg tuag at ledaenu unrhyw egwyddorion. Mae areithiau yn dda, mae ymresymu mewn Cymdeithasau yn fuddiol, cyn belled ag y mae y cylch yn cyrhaedd. Ond os mynir lledaenu egwyddor- ion drwy wlad, rhaid rhoi pob cymhorth a help i draethodau, a Chyhoedd- iadau misol, a chwarterol, neu wythnosol, os gellir eu cael. Mae Deistiaid, Atheistiaid, Sociniaid, Socialist, ac Anffyddwyr o bob enwad a gradd yn prysur ddangos eu hegwyddorion o flaen y byd, a'i can-