Skip to main content

Y DIRWESTWR, A GYHOEDDfR DAN NAWDD AC AWDtfRDOD CYMANFA DDIR W ESTOL G W Y X EDI). " Dyrchafwn faner yn cnw èin Duw"—Salmydd. Rhif. 1.] AWST, 1840. [Pris 3c. AT Y CYMRY DIRWESTAIDD. Gydwladwyr hoff,— Wrth ystyried fod cymmaint o ugein- iau, os nad cannoedd o liloedd o Ddirwestr wyr yn Nghymru, ac nad oes genym un Cyhoeddiad hollol berthynol i'r Gymdeithas ardderchog hon, yn ein hiaith ein hunain ; daeth yr achos hwn dan sylw Dirprwywyr Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, a gyn- aliwyd yn Llanfair-caer-einion, Gorphenaf 7, 8, a 9, 1840, a phenderfynwyd cymeryd y gorchwyl mewn llaw, i gyhoeddi Misolyri, dan yr enw Y DIRWESTWR, ac i fod yn uniongyrchiol dan Nawdd ac awdurdod y Gymanfa: ac ymrwymwyd i fod yn ymdrechgar ac egni'ol tuag at ei gael yn Gyhoeddiad teilwng o'r achos y mae i'w bleidio, ac o dderbyniad cyffrediuol: ac nid oes amheuaeth na chyraedd y gobeith- ion mwyaf pryderus yn hyn, o herwydd fod agos holl Weinidogion (Dirwestol) y Gogledd, a llawer o ysgrifenwyr hyfedr eraill, perthynol i'r gwahanol endwada.ii Crefyddol, w^edi ymrwymo rhoddi cefnog- aeth a chymmorth egni'ol iddo, drwy aníbn defnyddiau teilwng o sylw, ac o ddefnydd- ioldeb i'r Diwygiad mawr sydd gan Dduw ar droed yn awr yn ein gwlad tuag at sobri y Meddwon ; at attal ieuengctyd yr oes rhag cael eu Uithio o dan ddylanwad y gwlybyr- oedd sjŵdanawl; attal yr ymarferiadau a'r sefydliadau melldigawl ag sydd yn achosi yr holl alanastra, yr anrhefn, a'r dinystr sydd yn y byd ; ac hefyd er cyssur, cefnog- aeth ac adfywiad yr holl füoedd sydd eisoes wedi dyfod i'r maes o dan Faner Dirwest Ni bydd dim yn bleidiol, neu sectaraidd yn y Dirwestwr ; ond ymdrechir cadw at egwyddorion goruchel y Gymdeithas, mewn addfwynder, ond yn wrol, cadarn a di-dder- byn wyneb. Rhoddir i mewn hanesion byr a chynnwysfawr am gyfarfodydd blynyddol, a chyfarfodydd nodedig eraill; hanesion am ansawdd, sefyllfa a llwyddiant y gwa- hanol Gymdeithasau yn y Dywysogaeth yn neillduol, a gwledydd eraill yn gyffredinol. Ymosodir ar hen gastell anghymedroldeb ; chwilir ei stafelloedd : eglurir yr erchylldra sydd ynddynt: ac yr ydym yn hyderus, yn enw yr Arglwydd, y bydd yr ymdrech hwn yn llwyddianus i ddwyn yn rhydd yr holl garcharorion gresynus sydd jno, yn gaeth yn ngadwynau y teyrnfradwr Alcohol; ac y bydd Gadben Dirwest a'i fyddin luosog, eyn bo hir yn gallu bloeddio allan Bcdd- Iîgoliaeth ar Feddwdod, nes dadseinio creigiau Cader Idris a'r Eryri, ac yn ol hyd Bannau Brycheiniog: i'e, o Gaergybi yn Môn hyd Gaerdydd yn Morganwg; ac o ddwyreinbarth Trefaldwyn hyd yn Llëjm ac Ynys Enlli yn y Gorllewin. Yna bydd genym sail i ddisgwyl am dywalltiad yr Ysbryd; a llwyddiant anarferol ar achos Crefydd Mab Duw yn y byd. Y pryd hyn, os gwelir anibell broffeswr neu weinidog yr Efengyl wedi ymgyndynu yn erbyn cyd- wybod a goleuni; byddant yn barod i udo, a dywedyd, M Canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd anhawddgar: ac er disgleirio o wynebau y rhai a arferasant Ddirwest,. yn oleuach na'r sêr; a'n hwynebau ninau yn dduach na'r tywyllwch !! " 2. Esdr. vii. 54, 55. Hyderwn y cawn gynnorthwy egr|i'ol holl bleidwyr sobrwydd, yn eu hymdrech i ymledaenu derbyniad ein Cyhoeddiad, a'i lenwá â'r cyfryw ddefnyddiau a fyddo yn fuddiol, blasus, ac o duedd i wneyd lles cyffredinol i'n cenedl; ac^m enwedig y cawn fendith y Goruchaf ar ein hymdrech- iadau, a gwenau y Nef ar ein llafur. Gol.