Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Khi* XLI.] [Mai, 1886. DÀLEN GENHÀDOL CHWARTEROL Y GYMDEITEAS ÉR LlEDAENU YB EFENGYL. PEKING. GWERTHWR TEITHIOL TEGANAU. Chwi a welwcli yma arlun wedi ei gymmeryd oddiwrth photograph o werthwr teganau yn Peking, a mintai o blant o amgylch ei gawell. Yn yr arlun chwi a welwch hefyd pa í'ath ddillad a wisgir gan y bobí yn y gauaf. Glas a llwyd gan mwyaf ydyw lliwiau y dillad. Ond odid nad oes gan rai o'r plant si acedi cochion neu lodrau cochion. Y gwr tew ar y llaw dde yw perchennog y cawell. Mae'n ymddangos yn dew oherwydd fod ei ddillad wedi eu gwisgo oddimewn yn drwchus â coUon-wçol. Geneth yw hon yna sy'n sefyll tu hwnt i'r cawell, â'i gwallt wedi ei drefnu fel pe bâi ganddí ddolen ar ei phen. Mae'r teganau yn y -cawell yn tynnu sylw mawr. Ýn eu plith fe gaech fulod bychain yn llusgo menni (coed bychain, ymlusgiaid o glai, cleddyfau a gwaywífyn coed, dolis, llewod a theigrod o lwch llif, a thaclau eraill rhy liosog i'w henwi. Mae plant y Chineaid yn lled debyg i blant y wlad hon mewn rhai-pethau. Hwy a allant fod, yn garuaidd ac ufudd, neu yn nwydwyllt, cynfîgenus neu ddrygionus, fel y ceir plant trwy'r holl fyd. Mae gan blant y wlad hon flawer mwy i ddiolch am dano, a llawer llai o esgusodion nâg a fedd plant y Chineaid os na thyfant i fynu yn ofn yr Arglwydd. Nid ydynt yn treulio bywydau mor happus a bywydau plant y wlad yma, nac ychwaith mor debyg o dÿfu i fynu yn wŷr a gwragedd da, geirwir, ac yn ofni yr Arglwydd. A'r rheswm yw fod Eglwys Dduw wedi cael ei phlannu, a'r Efengyl wedi bod yn cael ei phregethu, yn y wlad hon am gymmaint o ganrifoedd, fel ag y mae moddion gras a'r gwirionedd am Grist wedi ■*