Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif XXXIX.] [Tachwedd, 1885. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU YB EFENGYL. MANITOBA. Braenaru y Tju. *■ Mae Canada bellach yn eitliaf adna : byddus fel un o'r Trefedigaethau Prydeinig mwyaf eang a phwysig. Mae agos mor fawr ag Ewrop, ac yn fwy nâ'r Talaethau Unedig o 600,000 milltir ysgwâr. Yng Nghanada y mae Manitoba a Thiriogaethau y Gogledd-Orllewin-main- tioli y naill ydyw 123,000 milltir yrgwâr, ac y mae'r llall yn 2,665,000. Pan aethum i, ddwy ílynedd ar bymtheg yn ol, i'r lle a elwir yn bresennol Manitoba, ni wyddid ond ychydig am y wlad, ac yr oedd ei phoblogaeth deneu a neillduedig ar was^ar ar hyd cenlannau yr Afon Goch ac Afon Assiniboine, tra nad oedd yn Win- nipeg, yr unig dref neu bentref yn y wlad, onid deucant o breswylwyr. Hon yn awr ylyn pen tref Manitoba, a chanddi hoblogaeth yn rliefe rhwng ugain a deng mil ar hugain. Mae'r prairies mawi Canadaidd yn ymestyn o du'r gorllewin rhwng Winnipeg a'r Mynyddau Creigiog, pellder o naw can milltir, ac y maent yn amryw gannoedd o íilltiroedd o lêd. Mae'r darlun ar ben y ddalen yn arddangos ymsefydlwr yn Manitoba yn braenaru y tir newydd. Mae Llywodraeth y wlad yn awyddus i gael ywsefydlwyr iddi, ac yn haelfrydig caniattant ddarnau mawrion o dir i bersonau a chwennychant fyned yn amaethwyr. Mae'r tir a roddir i'r ymsefydlwr yn gyffredin mor lyfn, a rhydd o foncyfnon a cherrig, fel ag y gall roddi ei aradr i mewn yn unrhyw ben i'r tvddyn a rhedeg cwys trwyddo i'r ochr arall heb unrhyw anhawsdra. Mae Manitoba yn wlad lle y gellir defnyddio peiriannau awaethy ddol o bob math yn hawdd. Yn y gauaf mae'r hinsawdd yn oer, ond y mae'r awyr yn sych a chryfhaol, ac ar y cyfan yn llawer llai amharus na hinsawdd laith Prydain. Nid aes ond ychydig bersonau yn Manitoba wedi teithio ychwaneg nâg a wnaethum i, hyd yn oed yn yr hin oeraf, ac etto ift wyf erioed wedi dioddef oddiwith rew-frath. Yn bresenndl mae'r " Canadian Pacifìc Eailway" yn rhedeg o Quebec i'r