Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif XXXIII.] [MAI, 1884. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS EB LLEDAENU YB EFENGYL. TAMATAYE, MADAGASCAR. YSGOL FYRDDIO. Tamatave yw'r porthlacld mwyaf yn holl ynys MadagascaA. Âdeixaáwyd y dref lain bychan o dywod sydd yn ymestyn i'r môr, tra yr amddiífynir ei hangorfa gan dair trum o gwrel (coral reefs), ar ba rai y mae tonnau hirion y Cefnfor Indiaidd yn ymgurro yn ddibaicì. Ym mhen deheuol yr orynys mae pentref bychan a breswylir gan bysgotwyr brodorol (Malagasy), deiliaid Efrengig o Ynys Sainte Marie. Yn y pentref yma mae Eglwys Sant Andreas, yn yr hon y cynhelir dan wasanaeth bob Sul ac y cedwir ysgol ynghorph yr wythnos. Ond, fel y mae'n ofidus dywedyd, mae'r pentrefwyr wedi llwyr ymroi i yfed rum, ac ar y Sul cynhelir y gloddestau mawrion, tra y mae'r awdurdodau brodorol yn hollol analluog i gadw gwastrodaeth ar y deiliaid Efrengig yma. Yfed rum yclyw melldith fawr cenedl gref y Bétsimisáraka—cenedl ag sydd o ran rhai o'i chynheddfau moesol yn rhagori ar y llwyth llywodraethol, sef yr Hova. Mae eu henw yn golygu " Y rhai mawr anwahanedig ; " ond y mae ymgyfathrachu â'r cenhedloedd gwynion yn yr amgylchiad yma hefyd wedi cyflawni ei waith, a'r Mawrion Anwahanedig wedi myned yn bobl egwan, yn prysur ddarfod o ran nerth corphorol a nifer. Ymestyn y llwyth ar hyd glàn y môr, ac am ryw bellder i'r tir, am yn agos wyth gradd o ledred : ond y mae melldith eu cenedl wedi ymwthio i bob parth, ac ni fethir un amser a chanfod barilaid o rum hyd yn oed yn y pentrefydd mwyaf anhygyrch. Mae'r Bétsimisáraka bob amser wedi arfer credu—fel ag y gwna holl bobl Madagascar—mewn Bôd Goruchel, yr hwn a alwant wrth yr enwau " Yr Un Melus," " Y Cadarn," a'r " Creawdydd." Credant y bydd eu heneidiau hwy gwedi marw- olaeth yn gymdeithion i'r Duwdod, a chan hynny gweddiant ar ysprydoedd eu cyndadau. Nid ydynt yn addoli eilunod o un math, ond credant mewn amrywiol swynion a chyfareddion. Rhoddant eu hyder ar ryw fathau o ddail, rhyw bridd calchaidd, a math neillduol o fwyd. Parchant ryw goeden neillduol, dan gysgod yr