Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif XXXII.] [Chwefror, 1884. DALEN GENHADOL CHWARTEROL Y GYMDEITHAS EB LLEDAENU YB EFENGYL. ANTIGUA. EGLWYS GADEIRIOL ST. IOAN, ANTIGUA. Mae'r Eglwys yn yr hen wlad wedi dysgu llawer oddiwrth ei merched yn y Trefedigaethau, ac y mae Esgobaeth dlawd Antigua, yn India'r Gorllewin wedi cael ei dysgu, a hithau yn ei thro yn alluog i ddysgu eraill, pa heth a ellir ei gyflawni gan fân roddion yn cael eu cyfrannu yn rheolaidd. Oddeutu deng mlynedd yn ol collodd yr Eglwys yno yr arian a roddai y Llywodraeth cyn hynny tu ag at gynhaliaeth y Gwýr Eglwysig. Eel canlyniad naturiol mae ymladd am fywyd wedi hod yn cael ei garrio ymlaen byth er y pryd hwnnw yn yr holl blwyfydd a'r rhandiroedd a daflwyd felly yn ddisymmwth í ymddibynnu ar eu hadnoddau eu hunain. Yn anífodus pur ammharod oedd yr Hglwys gogyfer â'r amgylchiad yma. Yr oedd yn rhaid dysgu i'r cyfoethogion a'r tlodion fel eu gilydd pa fodd i gyfrannu. Yr oedd caethwasiaeth—yr hwn, fel y tûae'n oreu, sydd yn awr wedi ei ddileu—wedi dinystrio moesau y bobl dduon. Ac nid oedd y drwg wedi aros gyd â hwynt, ond yr oedd wedi cyrraedd hefyd hyd at y rhai oeddynt yn uwch na hwynt, nes achosi math o lacrwydd cyffredinol, ac anhygoel i bobl yn yr hen wlad. Ond yn y sefyllfa ofìdus yma taflwyd yr Eglwys ar y gyfundrefn wirfoddoL Ar yr olwg gyntaf edrychai pethau yn anobeithiol; ac yn wir mewn anobaith y Duasent oni bâi am drugaredd Duw a chynhorthwy cyfamserol y Gymdeithas er Ijledaenu yr Efengyl.